Ymchwilio i ymddygiad heddlu cyn marwolaeth Bedlinog
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dweud y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad i'r cysylltiad fu gan Heddlu De Cymru gyda dynes cyn ei marwolaeth.
Cafodd Denise Rosser, 38 oed, ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Stryd Lewis, Bedlinog am 06:21, bore Mawrth 29 Mai.
Mae Simon Winstone, 49 oed, yn parhau yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Cysylltodd Miss Rosser gyda Heddlu De Cymru y tro diwethaf ar 26 Mai, tri diwrnod cyn i'w chorff gael ei ddarganfod.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr IOPC, Catrin Evans: "Bydd ein hymchwilwyr yn edrych ar natur cysylltiad yr heddlu gyda Miss Rosser cyn ei marwolaeth ac os oedd Heddlu De Cymru wedi dilyn polisïau ac arweiniad lleol a chenedlaethol.
"Fel sydd wedi ei gyhoeddi yn y wasg yn barod, mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i lofruddiaeth arall ac nid yw'n addas i ni wneud sylw pellach ar y mater."
Dywedodd Ms Evans bod yr IOPC hefyd mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau Miss Rosser ac yn eu diweddaru'n gyson wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei blaen.
Bydd Mr Winstone yn ymddangos yn Llys y Goron, Merthyr Tydfil ar 17 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018