Talu 70% yn llai o iawndal oherwydd tyllau yn y ffordd

  • Cyhoeddwyd
twll yn y ffordd

Mae cynghorau Cymru yn gwario 70% yn llai ar iawndal oherwydd tyllau yn y ffordd, er gwaethaf cynnydd o 40% yn nifer yr achosion.

Mae'r swm sy'n cael ei wario ar y taliadau wedi gostwng o 92% mewn pedair blynedd - o £548,000 yn 2014/15 i £42,000 yn unig y llynedd.

Dywedodd yr AA eu bod wedi gweld bron i dair gwaith y nifer o geisiadau yswiriant yn ymwneud â thyllau yn y ffordd eleni.

Mae'r corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru yn dweud mai diffyg cyllid yw un o brif achosion y broblem.

'Angen buddsoddiad'

Dangosodd y ffigyrau, ddaeth i law drwy gais rhyddid gwybodaeth, fod y posibiliad o hawlio iawndal yn llwyddiannus wedi haneru yn y pedair blynedd diwethaf, er bod nifer y ceisiadau wedi cynyddu.

Dywedodd un mecanydd o Gaerdydd fod difrod i geir sy'n deillio o dyllau yn y ffordd yn dod yn fwyfwy cyffredin.

"Yn sicr mae cynnydd wedi bod yn y difrod i sbringiau, bwshys a chymalau pelen," meddai John Coles.

"Maen nhw'n warthus. Mae angen buddsoddiad."

Ffynhonnell y llun, Stephen Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stephen Thomas ei anafu wedi i'w feic daro twll yn y ffordd

Mae athletwr Paralympaidd gafodd ei anafu'n wael wedi iddo daro twll yn y ffordd wrth feicio yn dweud fod ei helmed wedi arbed ei fywyd.

Cafodd yr hwyliwr Stephen Thomas bwythau a niwed i'w ddannedd wedi iddo feicio drwy dwll oedd wedi'i orchuddio gan bwll o ddŵr ger ei gartref yn Y Barri.

"Fe wnaeth yr olwyn flaen ddod i stop yn syth ac fe gefais fy nhaflu oddi ar fy meic ac ar y llawr ar fy wyneb," meddai Mr Thomas.

"Roeddwn i'n lwcus achos fe wnaeth fy helmed i fy achub, ond petai plentyn wedi bod yn beicio drwy'r parc y diwrnod hwnnw pwy a ŵyr beth allai fod wedi digwydd."

Dangosodd ffigyrau gan Gynghrair y Diwydiant Asffalt (AIA) fod cynghorau Cymru yn gwario cyfartaledd o 32% o'u cyllideb cynnal a chadw ffyrdd ar drwsio materion oedd eisoes wedi codi - llawer uwch na'r ffigwr delfrydol i 11%.

Ychwanegodd AIA y byddai'n costio cyfartaledd o £27.4m yr un i awdurdodau lleol yng Nghymru sicrhau bod eu ffyrdd mewn "cyflwr rhesymol" unwaith eto.

Dywedodd yr RAC fod sawl esboniad ynghylch y gwahaniaeth rhwng nifer y ceisiadau a faint oedd yn cael ei dalu mewn iawndal.

Mae gan gynghorau amddiffyniad statudol os nad oedden nhw'n gwybod fod y twll yn y ffordd yn bodoli, meddai Simon Williams o'r RAC.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tyllau yn y ffordd yn gallu peri problemau i feicwyr a gyrwyr

Gallai fod oherwydd bod cynghorau yn gwrthod y ceisiadau, neu fod tyllau ddim yn cael eu canfod am nad ydyn nhw'n cynnal cymaint o archwiliadau.

"Mae tyllau yn y ffordd yn felltith i bawb sy'n eu defnyddio ac rydyn ni'n annog pobl i adrodd unrhyw rai maen nhw'n eu canfod yn syth," meddai Mr Williams.

'Papuro dros y craciau'

Dywedodd yr AA eu bod yn achub mwy o yrwyr sydd wedi dioddef niwed i'w cerbydau oherwydd tyllau nag erioed.

"Mae diffyg buddsoddiad digonol yn golygu bod awdurdodau priffyrdd yn gwneud fawr ddim mwy na phapuro dros y craciau," meddai llywydd yr AA, Edmund King.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amddiffyn cynghorau gan awgrymu bod llai o iawndal yn cael ei dalu oherwydd bod dulliau monitro wedi gwella.

"Mae cynghorau yn annog trigolion i roi gwybod ar-lein am dyllau yn y ffordd, ac yn gwneud defnydd cynyddol o dechnoleg yn y cerbyd fel bod eu gweithlu'n gallu rhoi gwybod am broblemau yn syth," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llefarydd mai tangyllido oedd y brif broblem, gan alw ar warchod treth o 2c y litr ar danwydd er mwyn gwella ffyrdd.