Amau rhwydwaith terfysgol yn ne Cymru o gyllido IS

  • Cyhoeddwyd
cell terfysgol

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi datgelu bod rhwydwaith terfysgaeth gafodd ei sefydlu yn ne Cymru dan amheuaeth o fod wedi cael ei ddefnyddio i ariannu nifer o weithgareddau Jihadaidd o amgylch y byd.

Yn ôl yr FBI, fe anfonodd cwmnïau oedd yn eiddo i Siful Sujan o Bontypridd arian i'r UDA gyda'r bwriad o ariannu ymosodiad ffrwydrol yno.

Bu farw Sujan yn 2015 ond mae honiadau fod ei gell wedi parhau i weithredu wedi ei farwolaeth a hynny trwy ei frawd Ataul Haque.

Mae Mr Haque, sydd mewn carchar ym Madrid, yn gwadu unrhyw ddrwgweithredu a bod â rhan mewn rhwydwaith terfysgol.

'Rhwydwaith difrifol'

Mae ymchwiliad gan BBC Wales Investigates wedi canfod fod Sujan, oedd â nifer o gwmnïau yng Nghaerdydd, wedi cychwyn rhwydwaith a arweiniodd at ymchwiliad gan yr heddlu mewn pedair gwlad.

Roedd y rhwydwaith yn ymestyn ar draws y byd ac yn gweithredu o dan yr enw Ibacstel Electronics.

Ond mae'n ymddangos nad oedd neb yn gwybod am ei ran gydag IS tan i'r FBI ymchwilio i gefnogwr posib i'r grŵp yn yr UDA.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Siful Sujan gell terfysg wnaeth ariannu ymosodiadau yn Bangladesh a'r UDA

Dywedodd Seamus Hughes, arbenigwr ar derfysgaeth ym Mhrifysgol George Washington, bod lefel o soffistigeiddrwydd yn perthyn i'r gell - rhywbeth nad oedd wedi'i ddisgwyl gan IS.

"Dwi'n credu bod yr FBI yn sylweddoli bod yna rwydwaith difrifol yma - rhywbeth na groesodd eu meddwl wrth iddyn nhw ddechrau'r ymchwiliad," meddai.

Honiadau'r FBI

Mae'r FBI yn honni bod Abdul Samad, oedd yn gweithio i gwmnïau Sujan, wedi cefnogi grŵp IS, trefnu taliadau i gefnogwr IS yn yr UDA ac wedi bod â rhan mewn prynu offer i IS.

Cafodd ei arestio ar yr un diwrnod y cafodd ei gyn-bennaeth, Siful Sujan, ei ladd yn Raqqa, Syria, yn 2015.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Sujan nifer o fusnesau yn ne Cymru

Fe wnaeth Sujan adael Cymru yn 2014 a theithio i Syria.

Bellach mae honiadau fod y rhwydwaith a sefydlwyd ganddo wedi parhau ar ôl ei farwolaeth.

Honnir bod arian o'r rhwydwaith wedi'i anfon i gefnogwyr IS yn Bangladesh a'r UDA.

Y dyn gafodd ei honni o fod wedi parhau i redeg y rhwydwaith oedd ei frawd, Ataul Haque, oedd hefyd yn bartner busnes i Sujan.

Wedi i Sujan farw, yr honiad yw bod Mr Haque yn rhedeg y rhwydwaith o Sbaen ble cafodd ei arestio ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Yr honiad yw fod brawd Sujan, Ataul Haque, wedi parhau i redeg y rhwydwaith o Sbaen wedi i Sujan farw

Yn ôl swyddog fu'n ymchwilio i'r achos roedd busnes Ataul Hague yn un cyfreithiol ar yr wyneb, ond roedd rhan o'r adnoddau yn fwriadol yn ariannu IS.

Dywedodd: "Ry'n ni'n amcangyfrif fod Ataul Haque yn Rhagfyr 2015 wedi anfon cyfanswm o $50,000 i Bangladesh.

"Bwriad yr arian yna, yn ôl ein cydweithwyr yn Bangladesh oedd 'sicrhau ymosodiadau'."

Ffynhonnell y llun, Policia Nacional Interior
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Haque ei arestio gan yr heddlu yn Sbaen

Mae yna hefyd amheuon bod y rhwydwaith gafodd ei sefydlu gan Sujan wedi bod â rhan posib yn ariannu un o ymosodiadau terfysgol gwaethaf Bangladesh, gan gynnwys ymosodiad ar gaffi yn Dhaka laddodd 24 o bobl.

Dyw heddlu Bangladesh ddim wedi gwneud sylw ar y mater.

Yn y cyfamser mae Mr Haque mewn carchar ym Madrid ac mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo cyn diwedd y flwyddyn.

Mae'n gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le ac yn dweud nad oedd ganddo ran yn y rhwydwaith terfysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Abdul Samad gwmni newydd yng Nghasnewydd - cwmni oedd yn rhannu yr un enw â chwmni Mr Haque yn Sbaen

Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ganfod bod Abdul Samad wedi sefydlu cwmni newydd yng Nghasnewydd fis Medi diwethaf o dan yr enw Isynctel.

Dyna oedd yr un enw â chwmni Sbaenaidd Ataul Haque - sydd wedi'i amau o ariannu terfysgaeth.

Doedd Mr Samad ddim am gael ei holi gan BBC Wales Investigates.

Mae'n gwadu unrhyw ddrwgweithredu neu fod â rhan mewn rhwydwaith terfysgol.

Yn ogystal mae'n gwadu bod ganddo ddaliadau eithafol.

Wedi ymchwiliad 15 mis gan heddlu gwrthderfysgaeth dywedodd Mr Samad nad oedd wedi cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd.

BBC Wales Investigates, 20:30, nos Lun, 16 Gorffennaf, ar BBC One Wales.