Cyhoeddi enw gyrrwr 21 oed fu farw ym Mrynmawr
- Cyhoeddwyd
![Bradley Lukins](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/0798/production/_102544910_610330b0-c344-41c1-a74f-9b22047f9a5d.jpg)
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Heol Blaenafon, Brynmawr ddydd Sadwrn.
Bu farw Bradley Lukins, 21 o'r Blaenau yn Ysbyty Nevill Hall o ganlyniad i'w anafiadau.
Yn ôl teulu Mr Lukins roedd yn "fachgen anhygoel" a oedd yn "gwneud pawb a oedd yn ei adnabod yn llawen".
Dywedodd y teulu eu bod nhw wedi eu "llorio" a "hoffent amser nawr i alaru".
Cafodd dau ddyn 21 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn y digwyddiad.
Mae un dyn bellach wedi ei rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau, a'r dyn arall wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2018