Chwilio Caerfyrddin: Arestio tri o bobl nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Heol Dŵr.
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu yn Heol Dŵr ddydd Llun

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio gan blismyn sy'n ymchwilio i ddau achos o ymosod yn nhref Caerfyrddin nos Sul.

Drwy gydol ddydd Llun roedd heddlu arfog i'w gweld ar ddyletswydd wrth iddyn nhw archwilio bloc o fflatiau yng nghanol y dref.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn 23 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed gyda bwriad, bod ag arf yn ei feddiant, affräe a bod a chyffur dosbarth A yn ei feddiant.

Mae dyn 18 oed a merch 17 oed hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o affräe.

Cafodd yr heddlu eu galw am 11:35 ddydd Llun ar ôl adroddiadau o ddigwyddiadau yn Heol Awst a Mangre Gwalia.

Mae sôn fod ymosodiad wedi bod ar chwech o bobl, gydag un yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod heddlu arfog yn bresennol oherwydd sôn fod dryll wedi ei ddefnyddio yn yr ymosodiadau.

Nos Lun, roedd hofrennydd yr heddlu i'w gweld a'i chlywed yn hedfan uwchben Heol y Priordy yn y dref.