Nifer y plant sy'n tresbasu ar y rheilffyrdd wedi dyblu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n tresbasu ar reilffyrdd Cymru wedi dyblu yn y tair blynedd diwethaf.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 400 o achosion wedi'u cofnodi yn 2014/15 - 86 o'r rheiny'n ymwneud â phlant dan 18 oed.
Ond erbyn 2017/18, roedd y ffigyrau wedi cynyddu i 586 o achosion, a 173 o'r rheiny gan blant.
Dywedodd yr Arolygydd Mike Edwards o Heddlu Trafnidiaeth Prydain yng Nghymru nad "lleoedd i chwarae arnyn nhw" yw rheilffyrdd.
"Maen nhw'n anhygoel o beryglus a gall tresbasu arnyn nhw arwain yn hawdd at anafiadau difrifol neu waeth," meddai.
'Cannoedd yn cymryd y risg'
Fe wnaeth arolwg o 1,000 o blant yn eu harddegau ledled y DU gan Network Rail ganfod bod 18% ohonyn nhw ddim yn ymwybodol bod cerdded ar draciau rheilffyrdd yn anghyfreithlon.
Yn ôl yr arolygwyr, fe wnaeth un o bob pump o'r rhai o Gymru a holwyd gyfaddef eu bod wedi mynd ar y rheilffyrdd i gymryd llun.
Dywedodd rheolwr rhwydwaith Network Rail yng Nghymru a'r Gororau, Bill Kelly: "Mae cannoedd o bobl pob blwyddyn yn cymryd y risg o fod ar y rheilffyrdd, ac yn colli.
"Gall trenau deithio hyd at 125mya, felly hyd yn oed os yw'r gyrrwr yn gallu eich gweld, dydyn nhw ddim yn gallu dod i stop mewn amser a dydyn nhw ddim yn gallu newid cyfeiriad."
Ledled y DU yn y flwyddyn ddiwethaf, bu farw saith o blant dan 18 oed ar y rheilffyrdd, ac fe gafodd 48 arall anafiadau wnaeth newid eu bywyd.
Mae nifer yr achosion o dresbasu yn dyblu yn ystod gwyliau'r haf o'i gymharu â'r gaeaf, ac mae'r heddlu'n annog ysgolion i ysgrifennu at rieni i bwysleisio'r peryglon o fod ar y rheilffyrdd.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod nhw hefyd yn cynyddu eu presenoldeb yn ystod yr haf.
Ychwanegodd cyfarwyddwr gweithredoedd Trenau Arriva Cymru, Martyn Brennan: "Pob blwyddyn mae ein staff yn gweld cannoedd o achosion o dresbasu ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny.
"Y trychineb yw bod llawer gormod ohonyn nhw eisoes wedi profi'r canlyniadau dinistriol all ddeillio o hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2015