Atal Neil Hamilton eto o swydd comisiynydd Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae UKIP wedi methu yn eu hymgais i geisio penodi Neil Hamilton i swydd yr oedd eisoes wedi cael ei atal ohoni.
Dywedodd ACau blaenllaw nad oedd "pwynt" ail-enwebu Mr Hamilton ar gyfer rôl fel comisiynydd Cynulliad, gan ei fod yn debygol o gael ei rwystro eto.
Fe wnaeth mwyafrif o ACau bleidleisio yn erbyn penodi'r aelod UKIP i'r swydd fis diwethaf.
Dywedodd Mr Hamilton bod penderfyniad y pwyllgor yn "anghywir" a ni ddylai pleidiau eraill "ymyrryd" yn newis UKIP.
Mae BBC Cymru yn deall bod UKIP yn bwriadu cadw'r swydd yn wag am y tro.
'Lle UKIP yw hwn'
Ar hyn o bryd mae UKIP yn cynnal gornest i weld pwy fydd yn arwain eu grŵp yn y Cynulliad, ac mae Mr Hamilton yn un o'r ymgeiswyr.
Cafodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru ei ddisodli fel arweinydd ym mis Mai gan Caroline Jones, ac wedi hynny cafodd ei enwebu i fod yn gomisiynydd.
Mae pum comisiynydd Cynulliad i fod, gyda phob plaid yn enwebu un. Ms Jones oedd comisiynydd blaenorol UKIP.
Ond fe wnaeth 31 o ACau - yn bennaf o Lafur a Phlaid Cymru - wrthod enwebiad gwreiddiol Mr Hamilton mewn pleidlais.
Cafodd ei feirniadu am fod yn amhriodol ar gyfer y comisiwn wedi iddo atal ei bleidlais ar bolisi aflonyddu dros dro gafodd ei gefnogi gan y rhan fwyaf o ACau eraill.
Er hynny, mynnodd Mr Hamilton y byddai'n ymgeisio eto am y rôl.
"Lle UKIP yw hwn [ar y comisiwn] - dydyn ni ddim yn barod i adael i Lafur a Phlaid Cymru benderfynu pwy yw cynrychiolydd UKIP," meddai wrth BBC Cymru ar y pryd.
Tâl ychwanegol
Yr wythnos diwethaf fodd bynnag fe wnaeth pwyllgor busnes y Cynulliad, sy'n cynnwys ACau blaenllaw o bob plaid, benderfynu nad oedd pwrpas cyflwyno cynnig tebyg eto.
Fe wnaeth y cofnodion ddatgelu nad oedd "rheswm i feddwl y byddai eu haelodau yn pleidleisio'n wahanol".
Mae'r Llywydd Elin Jones nawr wedi gofyn i UKIP adlewyrchu ar y drafodaeth a gweld os oes modd enwebu rhywun arall.
Dywedodd Mr Hamilton nad oedd wedi lobio ACau Llafur a Phlaid Cymru i newid eu meddyliau gan nad oedd "pwynt" tan yr oedd yn gwybod pwy fyddai'r arweinwyr nesaf.
Ychwanegodd: "Ond polisi grŵp UKIP yw mai fi yw'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio, ni ddylai pleidiau eraill ymyrryd yn ein dewis."
Dywedodd bod penderfyniad y pwyllgor yn "anghywir" a bod angen trafodaeth bellach ar y mater a'i bryderon am y polisi aflonyddu.
Er hynny dywedodd nad oedd yn erbyn y polisi: "Dydw i ddim o blaid aflonyddu, o fath rhywiol neu fath arall."
Roedd cynnig i Caroline Jones wneud y swydd yn wirfoddol, ond yn ôl ffynonellau doedd grŵp UKIP ddim yn gallu cytuno ar y syniad hwnnw ac maen nhw'n bwriadu gadael y swydd yn wag nes y byddan nhw wedi cwblhau eu gornest arweinyddol.
Mae comisiynwyr yn cael eu talu £13,578 yn ychwanegol ar ben y cyflog arferol o £66,847 ar gyfer ACau, gan olygu eu bod yn cael cyfanswm o £80,425.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018