Rhybudd diogelwch i garafanwyr cyn y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
Sioe

Mae rhybudd i bobl sy'n bwriadu mynd â charafan i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yr wythnos nesaf i sicrhau bod y cerbydau'n ddiogel cyn dechrau ar eu taith.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymwybodol bod llawer o bobl yn defnyddio'u carafan unwaith y flwyddyn yn unig ar gyfer yr achlysur, ac o'r herwydd, y gallen nhw fod angen eu hatgyweirio cyn mynd ar y ffordd.

Gyda'r sioe yn dechrau ddydd Llun, 23 Gorffennaf, bydd yr uned blismona ffyrdd yn cydweithio gyda swyddogion o'r DVSA (Driver and Vehicle Standards Agency) yn archwilio carafanau wrth iddyn nhw gyrraedd safle'r sioe.

Bydd unrhyw garafanau sydd ddim yn cwrdd â'r safon yn cael eu tynnu oddi ar y ffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i filoedd heidio i'r sioe yn Llanelwedd yr wythnos nesaf

Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Scrase: "Rydym yn gweld nifer fawr o ymwelwyr â'r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn aros mewn carafanau.

"Mae cyflwr rhai o'r carafanau mor wael, dwi wedi fy syfrdanu eu bod nhw wedi goroesi hyd at ddiwedd y siwrne!

"Gall hyn fod yn ffordd gosteffeithiol i bobl fwynhau popeth sydd gan y Sioe Fawr i'w gynnig, ond o ddifri', fe allai fod yna bris uchel i'w dalu petai cyflwr y garafan yn achosi gwrthdrawiad neu ddigwyddiad arall ar y maes carafanau.

"Fy nghyngor i bobl yw i wneud yn siwr bod eu carafan mewn cyflwr iawn cyn dechrau'r daith i Lanelwedd.

"Byddwn yn archwilio'r carafanau wrth iddyn nhw gyrraedd y sioe, ac os byddwn yn dod o hyd i broblemau, fe allen ni gymryd y garafan er diogelwch pawb."

Pethau i'w gwirio cyn dechrau ar eich taith:

  • Rhaid i'ch carafan fod wedi ei gofrestru er mwyn iddo gael mynd ar y ffordd yn gyfreithlon;

  • Gwiriwch fod y cadwyni cyswllt a diogelwch mewn cyflwr da;

  • Sicrhewch fod y brec a'r goleuadau allanol yn gweithio;

  • Edrychwch ar gyflwr yr olwynion, teiars, berynnau a'r crogiad (suspension) mewn cyflwr da. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw'r garafan wedi bod yn segur ers tro;

  • Dylai'r teiars fod yr un maint a'r un math, bod â 1.6mm o ddyfnder, hefyd gwiriwch y pwysedd;

  • Dylai'r olwyn sbar fod mewn cyflwr da;

  • Gwiriwch fod y poteli nwy'n llawn, wedi eu diffodd, ac wedi eu clymu'n gadarn;

  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod sut i gysylltu'r carafan gyda'ch cerbyd yn ddiogel.