Cyflwyno camau diogelwch newydd ar gyfer Sioe Fawr 2018
- Cyhoeddwyd
Bydd nifer o fesurau i wella lles a diogelwch yn cael eu cyflwyno yn ardal Llanfair-ym-Muallt erbyn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf yn dilyn adolygiad eang.
Cafodd y mesurau eu hargymell gan grŵp gweithredu diogelwch a gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth ffermwr ifanc o Sir Drefaldwyn yn Afon Gwy yn ystod sioe y llynedd.
Dyfarnodd crwner ym mis Ionawr fod James Corfield, 19, wedi marw trwy ddamwain, a'i fod fwy na thebyg wedi marw o sioc sydyn ar ôl mynd i ddŵr oer ar noson gynta'r sioe.
Fe gafodd mesurau lles a diogelwch eu hadolygu mewn pedwar maes - trwyddedu, trafnidiaeth, iechyd a diogelwch a seilwaith.
Mae'r mesurau ychwanegol yn cynnwys:
'Llwybr Gwyrdd' o dref Llanfair-ym-Muallt i Faes y Sioe, Fferm Penmaenau a'r safle gwersylla a'r Pentref Ieuenctid;
canolfan les newydd yn y dref yn yr hen ganolfan groeso dan ofal staff gwasanaeth ieuenctid Cyngor Sir Powys;
gwasanaeth bugeiliaid stryd yn y dref cyn ac yn ystod pedwar diwrnod y Sioe;
gwell darpariaeth feddygol yn yr ardal; a
ffens diogelwch newydd rhwng Y Gro a'r afon.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwella trefniadau traffig a thacsis, mwy o doiledau cyhoeddus, gwell goleuadau, deunydd gwybodaeth newydd i ymwelwyr a gwell mesurau diogelwch a CCTV yn y dref.
Mae'r grŵp gweithredu diogelwch yn cynnwys nifer o sefydliadau allanol - yn eu plith Cyngor Sir Powys, y gwasanaethau brys a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
"Yn dilyn digwyddiadau trasig y llynedd, mae'n bwysig i ni gydweithio a rhannu ein profiadau a'n gwybodaeth i wella lles a diogelwch pobl sy'n dod i'r ardal dros gyfnod y Sioe," meddai arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
"Mae'r Sioe'n achlysur pwysig nid yn unig i Bowys, ond i Gymru gyfan, a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i reoli diogelwch ac i ychwanegu at brofiadau'r ymwelwyr sy'n dod i un o ddigwyddiadau pwysicaf y wlad.
"Mae'r adolygiad wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda chamau sylweddol a fydd yn sicrhau bod y digwyddiad a'r gweithgareddau o gwmpas hyd yn oed yn fwy diogel."
Ychwanegodd fod 'na fwriad i barhau i fonitro ac adolygu'r trefniadau "i sicrhau eu bod yn addas i'r diben yn y dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017