Cadarnhau gwahardd AC Llafur o'r Cynulliad am bythefnos
- Cyhoeddwyd
Mae AC Llafur wnaeth wrthod rhoi prawf anadl wedi cael ei gwahardd o'r Cynulliad am bythefnos.
Ym mis Chwefror cafodd Rhiannon Passmore ei gwahardd rhag gyrru wedi iddi gyfaddef wrth Lys Ynadon Casnewydd iddi fethu â darparu sampl.
Cafodd argymhelliad gan bwyllgor safonau'r Cynulliad i'w gwahardd am 14 diwrnod ei dderbyn yn ddiwrthwynebiad yn y Senedd.
Bydd gwaharddiad Ms Passmore, oedd ddim yn y Siambr, yn dechrau ar 17 Medi yn dilyn gwyliau'r haf.
'Taclo materion'
Mewn datganiad gafodd ei ddarllen ar ei rhan gan y gweinidog cabinet Julie James, fe wnaeth Ms Passmore ymddiheuro am ei hymddygiad a'i habsenoldeb, gan ddweud ei bod yn derbyn cyfrifoldeb.
"Hoffwn gydnabod y dyngarwch sydd wedi'i ddangos i mi mewn negeseuon preifat gan aelodau ar draws y Siambr a gan newyddiadurwyr sy'n craffu ar ein gwaith," meddai AC Islwyn.
"Byddaf yn sicrhau fy mod yn taclo'r materion yn fy mywyd preifat ac rwyf yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethu'r etholwyr rydw i'n falch o'u cynrychioli hyd eithaf fy ngallu."
Ychwanegodd y byddai'n gweithio'n "ddiflino bob dydd" i adfer ymddiriedaeth pobl ynddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018