Ceisio denu mwy o ddigwyddiadau i faes y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
Torf 'steddfod
Disgrifiad o’r llun,

Maes y Sioe oedd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eisiau denu mwy o ddigwyddiadau amrywiol i faes y Sioe Frenhinol, yn ôl aelodau.

Yn ystod cyfarfod blynyddol y gymdeithas dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, John T Davies, mai maes y Sioe yw eu "hased fwyaf gwerthfawr" a'u bod nhw'n gobeithio gallu cynyddu nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar y safle.

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei denu i'r maes yn Llanelwedd am y tro cyntaf eleni - maes sydd yn cynnal digwyddiadau amaethyddol amrywiol ar hyd y flwyddyn.

Yn ôl Mr Davies mae'r "gymdeithas, y gymuned a'r economi leol yn elwa" o'r digwyddiadau hyn.

'Maes Cenedlaethol'

Roedd Tom Tudor, Llywydd y Gymdeithas eleni, hefyd yn annerch y dorf yn ystod y cyfarfod, gan bwysleisio llwyddiannau'r flwyddyn hyd yma.

"Bydd arian a gasglwyd eleni yn mynd tuag at wella cyfleusterau'r aelodau ifanc ar faes y Sioe, yn ogystal â chreu bar aelodau newydd mewn pryd i'r canfed sioe yn 2019."

Dywedodd Mr Davies fod y gymdeithas yn gobeithio creu "Maes Cenedlaethol Brenhinol Cymru" drwy ddatblygu portffolio o ddigwyddiadau amrywiol.

"Drwy weithio ar y cyd gyda sefydliadau fel Visit Wales, tîm digwyddiadau Llywodraeth Cymru a Gweinidog Twristiaeth Cymru rydym ni wir yn rhoi maes y Sioe ar y map."

Ychwanegodd: "Mae'r uchelgais yma yn llunio rhan fawr o'n gweledigaeth hir-dymor, ac mae'r ffordd y mae'r gymdeithas yn amlygu, ac yn delio a'r rhwystrau posib yn galonogol iawn."

Bydd modd dilyn y newyddion diweddaraf o faes y Sioe ar wefan Cymru Fyw drwy gydol yr wythnos.