Apêl am arian i adnewyddu organ hynafol ym Merthyr
- Cyhoeddwyd
Mae apêl wedi'i sefydlu i godi arian i adnewyddu organ hynafol ym Merthyr Tudful, sydd â chysylltiad â'r cyfansoddwr Joseph Parry.
Mae'r organ yn hen gapel Soar yng nghanol y dref yn dyddio o'r 1880au, ac mae'n un o ddim ond dwy sydd ar ôl ym Mhrydain â phwmp dŵr.
Cafodd yr adeilad ei addasu'n Ganolfan Gymraeg a theatr yn 2011, a bwriad Menter Iaith Merthyr Tudful, sy'n gyfrifol amdano, yw gwneud cais i gronfa treftadaeth y loteri genedlaethol am arian i adnewyddu'r organ.
Maen nhw hefyd eisiau cyflogi swyddog treftadaeth i drefnu gweithgareddau yno - ond mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnyn nhw.
'Traddodiad o gerddoriaeth'
"Mae'n rhaid i ni godi £270,000, ond fel rhan o'r apêl cymunedol, 'dyn ni eisiau codi £10,000 tuag at y swm yna, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny erbyn mis Tachwedd," meddai prif swyddog Menter Iaith Merthyr, Lisabeth McLean.
"Mae'r organ fel calon yr hen gapel. Ro'dd e'n ganolog i lawer iawn o weithgareddau diwylliannol blynyddoedd yn ôl, a 'dyn ni eisiau dod â'r organ yn ôl mewn i'r gymuned a nôl mewn i galon Theatr Soar."
Mae hanes cerddorol cyfoethog i Ferthyr Tudful, ac un o feibion enwocaf y dref yw'r cyfansoddwr, Joseph Parry, gafodd ei eni ym 1841.
Yn ôl cadeirydd Canolfan Soar, Dyfrig Morgan, mae 'na gysylltiad rhwng yr organ maen nhw'n ceisio'i hatgyweirio a rhai o gerddorion mawr y dref.
"Ro'dd llawer o bobl yn cyfeirio at yr organ fel organ D.T.Davies," meddai. "Roedd yn gerddor ac organydd o fri, ac roedd e hefyd yn arweinydd Côr Meibion Dowlais pan oedden nhw ar eu hanterth.
"Roedd Capel Soar yn chwaer capel i Gapel Bethesda, sydd ddim yn bodoli bellach, a Bethesda oedd capel Joseph Parry, ac nid dim ond draw ym Methesda oedd e'n chwarae'r organ, ac fe fydde fe'n neis i feddwl ei fod e hefyd wedi chwarae 'Myfanwy' ar yr organ hon.
"Mae 'na draddodiad a hanes i gerddoriaeth o fewn yr adeilad hwn, ac i unrhyw un sydd wedi bod i'r ganolfan a Theatr Soar, 'dych chi'n gallu gweld bod yr organ yn rhan allweddol ym mlaen y theatr.
"Mae'n fud ar hyn o bryd, ond dyna braf bydde fe i gael yr organ yma nôl yn fyw, ac yn rhan o'n cymuned unwaith eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2015
- Cyhoeddwyd23 Medi 2015