Cymraes yn ennill Ras yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n waith caled ar y mynydd, meddai Bronwen Jenkinson, a enillodd ras y merched.
Mae Cymraes wedi ennill Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf ers 29 o flynyddoedd.
Fe groesodd Bronwen Jenkinson o Waunfawr y llinell derfyn ar ôl 1 awr 20 munud a 44 eiliad.
Mae Ms Jenkins, 21, sy'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Leeds, yn rhedeg dros Gymru hefyd.
Yr Eidalwr Alberto Vender oedd yn fuddugol yn ras y dynion, gyda Chris Holdsworth a oedd yn cynrychioli Lloegr heddiw yn ail, a'r Cymro cyntaf, Rob Samuel o Lanberis, yn croesi'r llinell yn y trydydd safle.

Alberto Vender o'r Eidal ennillodd ras y dynion gyda amser o 1.06.42
Hon oedd y 43ain ras yn cael ei chynnal ar lethrau mynydd uchaf Cymru, ac roedd trefnwyr wedi disgwyl i dros 600 o redwyr gymryd rhan.
Mae'r cwrs yn 10 milltir o hyd ac mae'n rhaid i'r rhedwyr redeg i fyny o Lanberis ac ar hyd rhai o lwybrau mwyaf poblogaidd i gerddwyr.
Ddydd Gwener, dywedodd un o drefnwyr y ras eu bod nhw wedi ystyried symud i ras i fis Medi pan fydd llwybrau'r mynydd yn dawelach.

Y Cymro cyntaf dros y llinell oedd Rob Samuel o Lanberis
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2017