Capel olaf Y Groeslon ger Caernarfon yn cau
- Cyhoeddwyd
Mae'r addoldy olaf ym mhentref Y Groeslon, ger Caernarfon, wedi cau ei ddrysau, gan olygu y bydd yn rhaid i addolwyr nawr deithio i Gapel y Groes ym Mhen-y-groes.
Fe wnaeth Capel Bryn Rhos gau ddydd Sul oherwydd prinder swyddogion i ymgymryd â swyddi'r trysorydd a'r ysgrifennydd mae'r eglwys wedi gorfod cau.
Ar un adeg roedd yna bedwar capel ac eglwys yn y pentref, ond bellach does yna ddim un ar ôl.
Er fod yna 49 o aelodau ar lyfrau Eglwys y Bryn, a bod dau gapel yn rhan o'r eglwys, rhyw 12 i 15 oedd yn mynychu'r oedfaon ar fore Sul.
Roedd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yng nghapel Brynrodyn a Bryn Rhos bob yn ail Sul ond ddydd Sul fe gaeodd y drysau am y tro olaf.
'Amser hapus'
Yn ôl Mari Vaughan Jones, yr ysgrifennydd presennol, doedd neb yn awyddus i ymgymryd â gwaith y trysorydd na'r ysgrifennydd ac felly doedd dim dewis ond cau.
Dywedodd: "Mae'r rhan fwyaf ohonan ni yr un oed yn anffodus iawn, ac wedyn mae'n debyg nad oedd neb yn gweld ei ffordd yn glir i ymgymryd â'r gwaith yma."
Mae Dorothy neu 'Dosi' Pritchard yn 82 oed ac wedi bod yn aelod o'r capel ers iddi fod yn dair oed.
"Dwi'n cofio cychwyn yn yr ysgol Sul yma, ac yn dal yn aelod yma, wedi bod yn yr ysgol Sul a'r Band of Hope, wedi cael fy nerbyn yn gyflawn aelod, wedi priodi yma, a'r plant yn cael eu bedyddio yma.
"'Dan ni wedi cael amser hapus iawn yn y capel ar hyd y blynyddoedd, ac roedd y cau yn emosiynol iawn."
'Arbrawf'
Mae'r aelodau wedi penderfynu uno hefo Capel y Groes ym Mhen-y-groes gerllaw.
Ychwanegodd Ms Vaughan Jones: "Roedd ganddon ni'r dewis o gau y drws a phawb i fynd ei ffordd ei hun, neu uno fel eglwys hefo eglwys gryfach ac fe gawson ni bleidlais a dyna oedd dymuniad yr aelodau.
"Mae'r aelodau hefyd wedi trefnu bws mini i fynd â nhw bob Sul i Ben-y-groes.
Dywedodd Ms Pritchard: "Mi fydd y bws mini yn handi iawn, fydd dim rhaid i ni feddwl am fynd â char a pharcio, mi fydd yn pigo pobl i fyny... mae o'n arbrawf yn tydi?"