'Nid bai ffermwyr yw'r rhan fwyaf o lygredd afonydd'

  • Cyhoeddwyd
gwrtaith

Mae angen rhoi'r gorau i feirniadu ac amau ffermwyr am fod yn gyfrifol am fwyafrif yr achosion o lygredd afon, yn ôl pobl o fewn y diwydiant.

Fe ddywedodd un ffermwr sydd wedi teimlo ei fod yn cael ei feirniadu'n annheg fod y sefyllfa'n gwbl gamarweiniol.

Ychwanegodd undeb NFU Cymru fod "ffermwyr yn cymryd eu cyfrifoldeb amgylcheddol o ddifrif".

Ond yn ôl elusen Gwarchod Eog a Brithyll mae amaethu dwys yn tyfu, a does dim digon o reoliadau ar y diwydiant.

'Cannoedd o bysgod'

Dywedodd un ffermwr o Sir Conwy nad oedd eisiau rhoi ei enw, rhag ofn iddo gael ei dargedu a'i gyhuddo o fod yn gyfrifol am achosion o lygredd afon yn y dyfodol.

Bu'n siarad am achos diweddar o lygredd afon, gan ddweud: "Roedd o wedi digwydd diwedd yr wythnos, ar ddydd Gwener. Syth bin, ar y diwrnod wedyn, roedd y papur lleol yn dweud bod cannoedd o bysgod wedi marw, ac ar y newyddion y noson honno."

Fe ymddangosodd sylwadau ar-lein yn dilyn yr adroddiadau, gyda'r ffermwr yn cael ei feirniadu'n hallt am achosi'r llygredd.

"Dechrau'r wythnos wedyn, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru allan yn archwilio'r afonydd, a phrofi safon y dŵr i weld os oedd 'na lygredd," meddai'r ffermwr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Menna Williams o Cyswllt Ffermio bod y "cyhoedd yn rhy gyflym i roi bai ar ffermwyr"

"Yn amlwg doedd 'na ddim, ac roedden nhw'n arbennig o hapus efo safon y dŵr yma. Ychydig iawn o bysgod, llond llaw i gyd, oedd wedi marw mewn gwirionedd. A hyd heddiw, dwi heb gael gwybod beth oedd y broblem yn yr achos a dydy'r cyhoedd heb gael gwybod mai dim bai ffermwr oedd o chwaith."

Dywedodd Menna Williams, Swyddog Technegol gyda Chyswllt Ffermio: "Mae'r cyhoedd yn rhy gyflym i roi bai ar ffermwyr. Oes, mae 'na ddamweiniau yn digwydd. Ond, yn y pen draw mae amaethwyr yn gynhyrchwyr bwyd, sydd yma i warchod yr amgylchedd.

"Mae Cyswllt Ffermio wedi bod cydweithio gyda ffermwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r lefel cywir o wrtaith i'w ddosbarthu ac yn lle. Mae ffermwyr hefyd yn gallu manteisio ar ein rhaglen rheoli maeth, sy'n gallu cael ei ariannu hyd at 80%."

'Pwysau ar y diwydiant'

Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod wyth swyddog newydd wedi eu penodi i fynd i'r afael â phroblemau llygredd amaethyddol.

Y bwriad yw cydweithio a chynghori yn ogystal â sicrhau bod ffermwyr yn dilyn rheolau.

Er hynny, mae rhai yn teimlo bod angen gwneud mwy eto i leihau effaith llygredd amaethyddol ar afonydd yng Nghymru.

Dywedodd Richard Williams, ar ran elusen Gwarchod Eog a Brithyll Cymru: "Dwi'n cydnabod bod diwydiannau trwm a phlanhigfeydd yn cael effaith andwyol ar y nentydd, a charffosiaeth tai hefyd yn cyfrannu yn fawr iawn. Ond, mae llygredd amaethyddol yn broblem sydd yn tyfu.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim digon o reoliadau yn ôl Richard Williams o elusen Gwarchod Eog a Brithyll Cymru

"Rydyn ni'n gweld bod mwy o bwysau ar y diwydiant i fynd yn fwy dwys yn ei gynhyrchu. Mwy o wartheg, mwy o ieir, i'r eithaf bod gormod o anifeiliaid i'r tir ei gynnal. Does dim digon o reoliadau mewn lle i atal llygredd dŵr o fewn y diwydiant amaethyddol dwys."

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen safon dŵr NFU Cymru, Stephen James: "Mae ffermwyr yn cymryd eu cyfrifoldeb amgylcheddol o ddifrif ac rydyn ni'n cydnabod bod un achos o lygredd yn un yn ormod.

"Mae yna ystod o ffactorau sy'n effeithio ar safon dŵr yng Nghymru ac mae ymchwiliadau Cyfarwyddyd Fframwaith Dŵr yn dangos bod ymarferion amaethyddol yn cyfrannu i ychydig yn llai na 15% o'r methiannau. Mae NFU Cymru, felly, yn cydnabod y rôl sydd gan ffermwyr i'w gyfrannu i wella ansawdd dŵr yn y dyfodol."