Rhoi £1m i Qatar Airways i farchnata Cymru ledled y byd
- Cyhoeddwyd
Bydd Qatar Airways yn derbyn £1m gan Lywodraeth Cymru i farchnata Cymru fel cyrchfan ledled y byd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu cost y cytundeb byd-eang, gan ddadlau bod ei werth a'i strwythur "yn un sensitif yn fasnachol".
Bydd y cwmni hefyd yn cyfrannu £1m fel rhan o bartneriaeth dros ddwy flynedd, sydd ag opsiwn i'w hymestyn am ddwy flynedd ychwanegol ar yr un telerau ariannol.
Mae'r prif weinidog, Carwyn Jones wedi disgrifio'r cytundeb fel "hwb enfawr" i Gymru, a dywedodd y llywodraeth "nad oes modd tanbrisio" arwyddocâd y cytundeb.
Roedd y gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth am beidio â chyhoeddi'r manylion, ond fe fynnodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio "bod mor agored a thryloyw â phosib".
'Dim cystal â'r disgwyl'
Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud un taliad i Qatar Airways yn y flwyddyn ariannol hyd at fis Mawrth 2018, ac y bydd taliad arall yn y flwyddyn 2018-2019.
Bydd Llywodraeth Cymru a Qatar Airways yn monitro ac arolygu gwerth am arian y cytundeb.
Fe wnaeth hediadau rhwng Maes Awyr Caerdydd - sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru - a Doha yn Qatar ddechrau ym mis Mai, ac mae hediadau dyddiol ers canol Mehefin.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd prif weithredwr Qatar Airways, Akbar al-Baker wrth bapur newydd The Independent nad yw'r gwasanaeth yn gwneud cystal â'r disgwyl o ran nifer teithwyr, ond bod yr ochr llwythi cargo yn gwneud yn dda.
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd fod angen rhoi amser i'r gwasanaeth ddatblygu a bod dros 1,500 o deithwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth yn yr wythnos flaenorol, allan o'r 1,750 o seddi posib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018