Cost cytundeb Qatar Airways yn 'gyfrinachol'

  • Cyhoeddwyd
Awyren Qatar AirwaysFfynhonnell y llun, Qatar Airways

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu faint o arian cyhoeddus gafodd ei wario ar gytundeb byd-eang gyda Qatar Airways i farchnata Cymru.

Dywedodd y llywodraeth "nad oes modd tanbrisio" arwyddocâd y cytundeb, ond bod ei gwerth a'i strwythur yn un sensitif yn fasnachol.

Byddai rhyddhau'r wybodaeth yn debygol o greu "disgwyliad" bod cwmnïau eraill â hawl i gytundeb tebyg, meddai'r llywodraeth.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod gweinidogion yn "cuddio tu ôl i gyfrinachedd masnachol".

'Cynyddu ymwybyddiaeth'

Fe wnaeth hediadau rhwng Maes Awyr Caerdydd - sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru - a Doha yn Qatar ddechrau fis diwethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn "hwb enfawr" i Gymru, fyddai'n agor cysylltiadau â gweddill y byd.

I gyd-fynd â'r hediadau, bydd partneriaeth masnachu dwy flynedd rhwng y llywodraeth â Qatar Airways i "gynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau i Faes Awyr Caerdydd".

Bydd Llywodraeth Cymru a Qatar Airways yn monitro ac arolygu gwerth am arian y cytundeb.

Cais rhyddid gwybodaeth

Fe wnaeth BBC Cymru gais rhyddid gwybodaeth i'r llywodraeth i geisio cael manylion am gost a strwythur y cytundeb i farchnata Cymru.

Ond cafodd y cais ei wrthod ar y sail y gallai wneud niwed i economi Cymru a pheryglu diddordebau masnachol Qatar Airways.

Ffynhonnell y llun, Martyn Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lleoliadau fel Penrhyn Gŵyr yn cael eu masnachu ar draws y byd fel rhan o'r cytundeb

Dywedodd Mr Davies bod pawb eisiau i'r cytundeb gyda Qatar Airways i fod yn llwyddiant, ond bod "y bwlch rhwng rhethreg a realiti ble fo Llywodraeth Cymru dan sylw fel arfer yn golygu bod y trethdalwr yn gorfod talu bil sylweddol".

Ychwanegodd AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth nad yw'r ddadl bod y wybodaeth yn sensitif yn fasnachol yn dal dŵr, gan ddweud bod angen "gwneud yn siŵr bod Cymru'n cael cytundeb da hefyd".

Dywedodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Caroline Jones y dylai'r cyhoedd a'r Cynulliad gael yr hawl i graffu ar y cytundeb.

'Agored a thryloyw'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymdrechu i fod "mor agored a thryloyw â phosib".

"Ond mae gennym gyfrifoldeb i'r cwmnïau ry'n ni'n gweithio â nhw i amddiffyn natur gyfrinachol unrhyw gytundebau busnes," meddai.

Ychwanegodd bod y cytundeb marchnata wedi cael ei groesawu am y byddai'n "cynyddu proffil Cymru".

"Mae partneriaethau masnachol yn rhan bwysig o waith Croeso Cymru, oedd gwerth £356m yn ychwanegol i economi Cymru yn 2017."