Siopau'n gwerthu llai wrth i bobl fwynhau'r tywydd poeth
- Cyhoeddwyd
Mae gwariant siopau manwerthu wedi gostwng yn ystod mis Mehefin eleni, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dweud bod yn well gan bobl osgoi'r siopau ar ddiwrnodau braf ar y cyfan, gan dreulio'u hamser allan yn yr heulwen yn hytrach na siopa ar y stryd fawr.
Oherwydd hynny mae'r tywydd braf wedi profi'n fanteisiol iawn i gwmnïau hufen iâ, ond yn heriol iawn i ffermwyr llaeth.
Mae llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio y gall prisiau nwyddau yn gyffredinol godi oherwydd effaith y tywydd ar y diwydiant amaeth.
Un cwmni sydd wedi elwa o'r tywydd braf yw Sidoli's, sydd wedi bod yn gwneud hufen ia ers dros ganrif.
Maen nhw ar hyn o bryd yn cynhyrchu 20,000 litr o hufen iâ yr wythnos, dwywaith faint maen nhw'n ei gynhyrchu fel arfer.
Yn sgil poblogrwydd Sidoli's yn y tywydd poeth, mae'r cyflenwyr llaeth o Abertawe a'r cwmnïau sy'n gwneud y bocsys a labeli hefyd yn elwa.
Dywedodd Mark Sidoli nad oedd wedi gweld galw tebyg ers 40 mlynedd ac er bod y cwmni yn brysur iawn, doedden nhw ddim yn gorfod gweithio shifftiau nos fel wnaethon nhw yn 1976.
Fodd bynnag, mae'r tywydd braf wedi bod yn her i ffermwyr llaeth, gyda nifer ohonynt yn bwydo gwair y gaeaf i'r gwartheg yn barod.
Mae Rhys Lougher a'i deulu yn rhedeg Llaethdy Tŷ Tanglwyst ac yn cadw 110 o wartheg ac yn eu godro tair gwaith y dydd.
Mae Mr Lougher yn pryderu am fod diffyg glaw wedi achosi i'r borfa sychu'n grimp, ac nid oes digon o faeth yn y gwair i'r gwartheg.
Dywedodd Mr Lougher: "Dwi erioed wedi gweld hi mor sych â hyn.
"Ni angen llawer iawn o law i adfer y borfa."
Mae'r ffermwyr eisoes wedi bwydo cryn dipyn o'r silwair oedd ganddynt ar gyfer y gaeaf i'r gwartheg ac maen nhw'n poeni am beth fydd yn digwydd pan ddaw'r gaeaf.
Effeithio'r economi
Yn ôl Darren Morgan o'r ONS mae patrymau gwario unigolion yn newid pan fydd y tywydd yn boeth.
"Ni'n fwy tebygol o brynu dillad haf a bwyd ar gyfer barbeciws a phethau felly, ond mewn gwirionedd, rydym yn cyfnewid rhai eitemau am eitemau eraill," meddai.
Mae ystadegau diweddaraf yr ONS yn dangos bod y boblogaeth wedi bod yn gwario mwy ar ddechrau'r cyfnod o dywydd braf ym mis Mai, ond bod llai o wariant mewn siopau erbyn y mis canlynol.
Yn gynharach eleni dywedodd Mark Carney, llywodraethwr Banc Lloegr, fod twf economi'r DU wedi gostwng yn ystod y gaeaf caled a bod effaith y tywydd poeth ar y gymuned amaethyddol wedi profi'n ddrud.
Mae pris gwellt wedi dyblu mewn pris o'i gymharu â llynedd ac mae pris bwyd anifeiliaid yn debygol o godi wrth i'r angen amdano gan ffermwyr godi.
Os bydd costau ffermio'n cynyddu, mae'n debygol y bydd prisiau'r nwyddau mae'r ffermwyr yn eu tyfu hefyd yn cynyddu, gan fwrw poced y siopwr cyffredin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2017