Tywydd yn cael effaith 'ddigynsail' ar ffermwyr llaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi rhybuddio y gallan nhw ei chael yn anodd goroesi'r haf os yw'r tywydd sych yn parhau.
Mae nifer yn dweud bod y gwair maen nhw'n ei ddefnyddio i fwydo eu gwartheg heb dyfu ers wythnosau, gan arwain at bryderon am fwydo eu hanifeiliaid yn y tymor hir.
Fel arfer, mae'r haf yn cael ei ddefnyddio gan y rheiny yn y diwydiant llaeth i storio rhagor o wair ar gyfer y gaeaf.
Ond mae rhai ffermwyr yn dweud eu bod yn dechrau rhedeg allan o dir pori addas i'w gwartheg yn barod.
Mae disgwyl i'r tywydd sych a phoeth barhau am o leiaf pythefnos arall.
Dywedodd cadeirydd bwrdd llaeth NFU Cymru, Gareth Richards, y gallai'r tywydd gael effaith "cwbl ddigynsail" ar y diwydiant.
"I'r mwyafrif o ffermwyr llaeth mae'n fater o oroesi o ddydd i ddydd i gael trwyddi, a gobeithio y bydd y glaw yn dod," meddai.
"Fe wnaeth y tywydd gwael ar ddiwedd y gaeaf a dechrau'r gwanwyn daro ffermydd yn wael, gyda nifer yn gorfod prynu rhagor o fwyd i'w gwartheg bryd hynny.
"Felly roedd hi'n ddechrau gwael i'r flwyddyn i ffermwyr, a nawr mae hi'n haf gwael iawn i ffermwyr llaeth."
Ynghyd â phroblemau yn tyfu digon o wair, mae rhai hefyd wedi mynegi pryder eu bod yn ei chael yn anodd cael digon o ddŵr i'w gwartheg.
Dywedodd Aled Rees, sy'n rhedeg fferm laeth organig yn Sir Benfro, ei fod erioed wedi profi amodau o'r fath.
"Y broblem fwyaf sydd 'da ni yw ein bod ni'n barod yn gorfod defnyddio'r bwyd o'dd 'da ni ar gyfer y gaeaf," meddai.
"Felly mae hynny'n bryder - faint o fwyd fydd 'da ni am y gaeaf.
"Ond hefyd mae'r bwyd ni'n prynu i mewn - mae cost ychwanegol i hynny, sy'n tynnu at £15,000 mis yma.
"Ni'n colli mas ar werthiant llefrith, achos dyw'r da ddim yn godro cystal pan mae'r tywydd mor dwym."
Ychwanegodd bod y gwair "tua hanner" y maint y dylai fod ar adeg yma'r flwyddyn.
"Dwi wedi bod yn ffermio ben fy hun ers rhyw 20 mlynedd, a dwi heb weld tywydd mor sych a mor dwym am mor hir," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018