Trenau Caerdydd 'ymhlith y prysuraf' ar oriau brig

  • Cyhoeddwyd
TrênFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae trenau Caerdydd ymhlith y prysuraf yn y DU yn ystod oriau brig, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan yr Adran Drafnidiaeth.

Yn ystod adegau prysuraf y bore roedd hyd at 12% o deithwyr yn gorfod sefyll ar rannau mwyaf prysur y rhwydwaith.

Ar y cyfan roedd trenau'r brifddinas yn ystod yr wythnos yn hydref 2017 yn orlawn o 3% - sef cyfartaledd o 103 teithiwr am bob 100 lle.

Dim ond pedair dinas arall yn y DU oedd a chyfradd gorlenwi uwch - Llundain, Caergrawnt, Manceinion a Leeds.

Mwy yn sefyll

Dangosodd y ffigyrau bod cyfartaledd o 37,000 o deithwyr yn cyrraedd gorsafoedd canol dinas Caerdydd bob dydd - gyda dros draean o'r rheiny yn cyrraedd rhwng 07:00 a 09:59.

Fe wnaeth cyfanswm y teithwyr oedd yn cyrraedd Caerdydd yn oriau brig y bore gynyddu 1.6% rhwng 2016 a 2017 - ond gostwng o ganran tebyg wnaeth nifer yr ymadawiadau yn adegau prysuraf y prynhawn.

Dros y saith blynedd diwethaf, prifddinas Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr sy'n gorfod sefyll.

Nes ymlaen eleni fe fydd KeolisAmey yn cymryd cyfrifoldeb dros fasnachfraint trenau Cymru a'r Gororau, a hynny wrth i'r cytundeb gyda Threnau Arriva Cymru ddod i ben.

Yn ogystal â rhedeg y gwasanaethau trenau, fe fydd y cwmni hefyd yn gyfrifol am Fetro De Cymru.