AS yn defnyddio 'term sarhaus' at gyn-weithiwr lesbiad
- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy arweinydd Llafur Cymru wedi cael ei chyhuddo o alw cyn-weithiwr yn swyddfa ei hetholaeth yn "dyke".
Ond fe wnaeth Carolyn Harris wadu ei bod wedi bwlio Jenny Lee Clarke am fod yn lesbiad, gan ddweud mai dim ond tynnu coes yn y swyddfa oedd hi.
Roedd Ms Harris, 57, yn rhoi tystiolaeth i achos llys ble mae Ms Clarke, 42, wedi ei chyhuddo o dwyll.
Mae Ms Clarke, oedd yn rheolwr swyddfa i AS Dwyrain Abertawe, wedi ei chyhuddo o roi codiad cyflog o £2,000 i'w hun a lleihau ei horiau gwaith heb i'w chyflogwr awdurdodi hynny.
'Ymosod'
Clywodd y llys fod yr AS wedi dweud "edrych arnat ti yn yr esgidiau dyke yna", wedi i Ms Clarke ddweud wrthi ei bod yn hoyw.
Dywedodd Ms Harris nad oedd hi'n cofio defnyddio'r gair, ond petai hi wedi, mai "cellwair" yn y swyddfa yn unig yr oedd hi.
Ychwanegodd na fyddai hi wedi ceisio bod yn ddirmygus petai hi wedi defnyddio'r gair, sydd yn cael ei ystyried yn derm dirmygus tuag at lesbiaid.
"Dwi ddim yn homoffôb - rydw i'n ffrind i'r gymuned LGBT," meddai.
Gofynnodd Stephen Donnelly ar ran amddiffyniad Clarke sut berthynas oedd gan Ms Harris â hi, ac a oedd y gair a ddefnyddiodd "yn briodol mewn sefyllfa waith".
"Mae'n siŵr ddim," meddai Ms Harris mewn ymateb. "Ond roedd Jenny yn ei ddefnyddio ei hun."
Mae Ms Clarke wedi ei chyhuddo o ffugio llythyr yn 2015 yn dweud y byddai ei chyflog yn cynyddu o £37,000 i £39,000, ac yn lleihau ei horiau wythnosol o 40 i 37.5.
Yn ystod yr achos ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Donnelly hefyd gyhuddo Ms Harris o ymosod ar Ms Clarke a'i "hysgwyd yn galed".
Fe wnaeth hi wedyn gynnig swydd i Ms Clarke, meddai, mewn ymgais i'w "chadw'n dawel".
Absenoldeb
Dywedodd Ms Harris fod yr ymosodiad "yn bendant" heb ddigwydd, a bod Clarke wedi ei diswyddo nid am ffugio llofnod yr AS ond am ei bod yn absennol o'r gwaith am gyfnodau yn 2015 heb eu hawdurdodi.
"Doedd Jenny ddim yn y gwaith y rhan fwyaf o fis Tachwedd a'r cyfan o fis Rhagfyr, ac fe ofynnwyd iddi am bapurau absenoldeb ym mis Ionawr," meddai Ms Harris.
"Doedd hi methu darparu'r papurau absenoldeb ac felly fe ges i gyngor gan yr adran adnoddau dynol i beidio gadael iddi ddychwelyd nes bod ganddi nodyn ffitrwydd neu bapurau salwch.
"Wnaeth fi fyth ddarparu hynny felly wnaeth hi ddim dychwelyd."
Mae Ms Clarke, o Abertawe, yn gwadu'r cyhuddiadau o dwyll a ffugio yn ei herbyn, ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018