S4C yn sicrhau hawliau i darlledu gemau rygbi'r Pro14

  • Cyhoeddwyd
Glasgow v ScarletsFfynhonnell y llun, SNS

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd gemau cynghrair y Pro14 yn parhau i gael eu dangos ar y sianel am y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y sianel y byddai hynny'n golygu bod gêm yn cael ei dangos bob wythnos gyda sylwebaeth Gymraeg yn ystod y tymor arferol.

Yn gynharach eleni fe wnaeth sianel Premier Sports sicrhau'r hawliau i'r gystadleuaeth oddi wrth y BBC o dymor 2018/19 ymlaen.

Ond mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd rhai gemau'n parhau i gael eu darlledu ar sianel sydd am ddim.

'Newyddion da i gefnogwyr'

Pan gyhoeddwyd y cytundeb darlledu newydd dywedodd trefnwyr y gystadleuaeth fod rhoi'r hawliau i sianel loeren wedi eu galluogi i "ddyblu'r refeniw maen nhw'n ei ddychwelyd i glybiau".

Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg y bydd y sylwebaeth ar gyfer yr 17 gêm ar S4C ar gael, gyda'r sianel hefyd yn cael yr hawl i ddangos gêm ychwanegol petai rhanbarth o Gymru'n cyrraedd y rownd derfynol.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydym yn falch iawn bod S4C yn mynd i barhau i ddangos gemau pedwar rhanbarth Cymru yn y Guinness PRO14, sef un o gystadlaethau rygbi gorau'r byd.

"Mae'r cytundeb tair blynedd yma yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddarlledu rygbi drwy'r iaith Gymraeg a'r gobaith yw bod y cyhoeddiad yma yn newyddion da i holl gefnogwyr rygbi Cymru. Mae'n bwysig i ni ac i gynulleidfa S4C ein bod ni'n gallu parhau i ddangos y Guinness PRO14 yn rhad-ac-am-ddim."

Gemau cyntaf y tymor

Bydd y Gleision yn dechrau'r tymor drwy groesawu'r pencampwyr, Leinster, i Gaerdydd ar 31 Awst.

Hefyd yn Adran B mae'r Scarlets, fydd yn herio Ulster ym Melffast ar 1 Medi.

Caeredin sy'n herio'r Gweilch yn y rownd gyntaf o gemau, tra bod y Dreigiau yn croesawu Benetton i Gasnewydd.