BBC yn colli hawliau darlledu Pro14 yn fyw
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi methu â sicrhau cytundeb ar gyfer darlledu gemau byw o'r Pro14 dros y ddwy flynedd nesaf.
Credir bod trefnwyr y gystadleuaeth wedi rhoi'r hawliau darlledu i wasanaeth talu-wrth-wylio.
Mae'n debyg fod trafodaethau yn parhau ynglŷn â chytundeb i werthu hawliau darlledu yn y Gymraeg.
Wrth ymateb, dywedodd y sylwebydd Huw Llywelyn Davies bod y newyddion yn "ergyd anferthol" i'r BBC ac i'r gêm.
'Cynyddu ein cynnig yn sylweddol'
Mewn datganiad dywedodd BBC Cymru eu bod yn siomedig: "Rydym yn falch o'n record o ddarlledu o gemau byw y Pro14 ar deledu, radio ac arlein.
"Fe wnaethom gynyddu yn sylweddol ein cynnig ariannol er mwyn ceisio sicrhau'r hawl i ddarlledu, fyddai wedi golygu teledu di-dâl i gannoedd o filoedd o wylwyr yng Nghymru a'r DU.
"Mae cannoedd o filoedd o gefnogwyr wedi mwynhau'r ddarpariaeth rygbi ar y BBC ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn gwybod y byddant yn hynod o siomedig efo'r cyhoeddiad hwn."
Dywedodd y darlledwr ei fod yn parhau i obeithio y bydd yn gallu cynnig rhaglen o uchafbwyntiau ar nos Sul, ac y byddai'n ceisio cael trafodaethau pellach gyda threfnwyr y Pro14.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Ni allwn wneud unrhyw sylw ar drafodaethau masnachol sy'n parhau ar hyn o bryd."
Yn ôl y sylwebydd Huw Llywelyn Davies mae'r newyddion yn "ergyd anferthol" i'r BBC gan fod rygbi byw yn "sylfaen" i adran chwaraeon y gorfforaeth.
Ychwanegodd ei fod yn "ergyd fawr i'r gêm" oherwydd y cynulleidfaoedd "sylweddol is na'r BBC" sydd yn draddodiadol yn gwylio rygbi ar sianeli lloeren.
"Mae'n ymddangos bod yr awdurdodau â mwy o ddiddordeb o gael mwy o arian nag y' nhw o ledu apêl y gêm", meddai.
Er yn cydnabod bod denu mwy o bobl i wylio gemau yn y stadiwm yn bosibilrwydd ac "er lles i'r gêm", ychwanegodd bod yr holl gemau byw sydd ar gael wedi "pylu" apêl rhaglen uchafbwyntiau, fyddai'n "eilradd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2015