Ysbyty'n arwain gydag adnoddau ar-lein i gleifion a staff
- Cyhoeddwyd
Mae adnoddau ar-lein i gleifion gafodd eu datblygu gan ysbyty ym Merthyr Tudful bellach yn cael eu defnyddio ledled y byd.
Cafodd DVD ar gyfer cleifion sydd â chanser y coluddyn ei greu yn Ysbyty'r Tywysog Charles 10 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae'r "syniad syml" wedi tyfu.
Erbyn hyn mae adnoddau ar-lein er mwyn hyfforddi staff ar gael, ac mae'n fwriad datblygu deunydd tebyg ar gyfer cleifion â chyflyrau eraill.
Mae un o sylfaenwyr y prosiect, yr Athro P.N. Haray, wedi dweud bod "dyddiau'r cyfeirlyfrau neu bamffledi gwybodaeth ar ben".
Mae cleifion a staff yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr a thu hwnt wedi cael budd o ffilmiau, adnoddau a chyrsiau ar-lein sydd wedi eu creu gan yr ysbyty,
Ddegawd yn ôl, cynhyrchodd tîm o'r ysbyty fideo i esbonio beth allai cleifion oedd â chanser y coluddyn ei ddisgwyl wrth fynd i'r ysbyty am driniaeth.
Yn hytrach nac actorion, roedd y ffilm yn cynnwys staff yr ysbyty o bob adran fyddai ynghlwm â gofal y claf yn yr ysbyty - o'r staff â chyfrifoldeb am brofion a sganiau i nyrsys a'r ffisiotherapyddion sy'n gyfrifol am ofal ar ôl y llawdriniaeth.
Syniad 'go bwysig'
Yn ôl Dr Rhodri Davies, ymgynghorydd radioleg, tyfodd y syniad yn wreiddiol wrth i'r adran gydweithio i feddwl am ffyrdd o rannu gwybodaeth gyda chleifion.
Dywedodd Dr Davies: "Mae clywed llais ymgynghorydd mewn clinig ac anghofio'n syth ar ôl mynd mas drwy'r drws yn un peth, ond mae cael rhywbeth yn eich llaw sy'n esbonio'ch sefyllfa chi yn nhermau'r system sydd ar gael a lle chi'n ffitio mewn yn go bwysig."
Mae Naomi Baker, nyrs sy'n gofalu am gleifion wedi iddynt dderbyn llawdriniaeth ar y coluddyn, yn dweud bod yr adnodd yn "werthfawr iawn" i ddarpar-gleifion, a'u bod yn gallu dod i arfer â staff yr ysbyty cyn eu triniaeth.
Dywedodd: "Mae e'n helpu nhw i baratoi ar gyfer beth i ddisgwyl wrth ddod mewn i'r ysbyty.
"Mae rhai cleifion heb ddod mewn i'r ysbyty ers blynyddoedd a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl."
Mae cleifion fel Grahame Clarke, gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn chwe blynedd yn ôl, wedi dweud bod gwylio'r DVD wedi gwneud iddo "deimlo'n hyderus" wrth fynd i'r ysbyty.
Dywedodd: "Roeddwn yn gallu gweld â fy llygaid fy hun sut fyddai gwahanol adrannau yn yr ysbyty a'r staff yn cydlynu fy ngofal."
Mae'r potensial ar gyfer yr adnodd yn ddiddiwedd, yn ôl yr Athro P.N. Haray, un o sylfaenwyr y prosiect, ac mae'r adnoddau wedi eu gwylio gan filoedd o gleifion a staff ledled y byd.
Bwriad y tîm ym Merthyr erbyn hyn yw datblygu ymhellach ar gyfer cleifion â chyflyrau eraill, gyda'r Athro Haray yn dweud bod potensial i drafod diabetes, gynecoleg, llawdriniaethau'r fron, casewinedd a mwy.
Dywedodd: "Drwy waith caled ac ymroddiad grŵp bach, ry'n ni wedi dechrau rhywbeth organig. Rhywbeth all dyfu cymaint ag y mae'r gwasanaeth iechyd am iddo wneud.
"Mae dyddiau'r cyfeirlyfrau neu bamffledi gwybodaeth ar ben - yn y byd sydd ohoni, adnoddau digidol sy'n cyfri.
"A man geni'r adnodd hwn yw Merthyr!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017