Oedi triniaeth bachgen yn 'hollol annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Ethan Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i Ethan aros am dair blynedd am lawdriniaeth

Mae'n debyg bod hawliau dynol bachgen wedi eu "cyfaddawdu" ar ôl iddo orfod aros am dair blynedd am lawdriniaeth, yn ôl ombwdsmon.

Daw'r feirniadaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi achos Ethan Matthews o Borth Tywyn, arhosodd am lawdriniaeth i dynnu aren.

Dywedodd Ethan bod ei fywyd "ar stop" ac nad oedd yn gallu chwarae pêl-droed, nofio neu ymuno â'r cadetiaid fel ei ffrindiau.

Mae'r "oedi hollol annerbyniol" wedi bod yn "brofiad ofnadwy" i'r bachgen a'i deulu, meddai'r ombwdsmon, Nick Bennett.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddidwyll" i Ethan a'i deulu am y digwyddiad.

'Hollol annerbyniol'

Yn wreiddiol, aeth Ethan, oedd yn 11 ar y pryd, i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ym Mehefin 2014 gyda chrawniad abdomenol (abcess).

Cafodd driniaeth ond daeth sgan pellach i'r canlyniad nad oedd ei aren chwith yn gweithio.

Cafodd ei gyfeirio at Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond roedd rhaid iddo aros tan Mai 2017 i gael y llawdriniaeth i dynnu'r aren.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd y cafodd y bachgen y llawdriniaeth wedi'r oedi

Yn ystod y cyfnod, cafodd heintiadau difrifol yn aml, ac roedd rhaid gorchuddio clwyf agored ar ei ochr dair gwaith yr wythnos.

Mae adroddiad yr ombwdsmon yn nodi bod Ethan yn gofyn yn aml pryd y byddai'n cael y driniaeth, ond nad oedd ei rieni'n gallu rhoi ateb iddo.

Dywedodd ei rieni eu bod yn ceisio bod yn gryf i'w mab, ond y byddent yn crio gyda'r nos gan nad oeddent yn gallu ei helpu.

Yn ôl tad Ethan, Robert Matthews, roedd hi'n gyfnod "o straen aruthrol" arnynt fel teulu.

"Mae gweld eich plentyn yn crio am ei fod mewn poen... mae'n anodd iawn, doedd 'na ddim byd allen ni wneud," meddai.

'Syfrdanol'

Ychwanegodd: "Roedd yn rhaid i ni wahardd Ethan rhag cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon corfforol - dim pêl-droed, dim rygbi, dim hyd yn oed chwarae mas gyda'i ffrindiau. Doedd e methu gwneud hynny."

Yn dilyn ei lawdriniaeth y llynedd, mae'r bachgen bellach wedi gallu ailgydio yn rhai o'i ddiddordebau.

"Mae'n deimlad gwych mod i'n gallu byw bywyd arferol eto, gwneud chwaraeon a mynd mas gyda fy ffrindiau," meddai Ethan.

Mae'r ombwdsmon, Nick Bennett, wedi galw'r achos yn "syfrdanol" ac yn "hollol annerbyniol".

"Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy i'r bachgen ifanc hwn a'i deulu ac mae'n debygol fod ei hawliau dynol wedi cael eu cyfaddawdu oherwydd yr effaith ar ei les corfforol a meddyliol, gan gynnwys maint y dioddefaint y mae wedi ei ddioddef," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett fod yr achos yn un "hollol annerbyniol"

Dywedodd yr ombwdsmon bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro am y methiannau, a'i fod wedi gosod "argymhellion clir" i'r byrddau iechyd, sydd wedi eu derbyn.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Mae diogelwch cleifion yn holl bwysig ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth diogel ac effeithiol i sicrhau'r canlyniad gorau i'n cleifion."

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi derbyn adroddiad yr ombwdsmon ac am ddilyn yr argymhellion, gan barhau i gadw golwg ar restrau aros yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi cael cais am sylw.