Swyddogion yn parhau i daclo tanau ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
tanau Sir DdinbychFfynhonnell y llun, Emma Howe
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld y tân am filltiroedd

Mae 60 o swyddogion yn taclo tân mawr yn Sir Ddinbych fore Gwener, un o sawl digwyddiad tebyg ar draws Cymru.

Cafodd 12 criw o gyn belled â Llangefni ar Ynys Môn eu hanfon i'r tân ar fynydd Llantysilio ger Llangollen.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn galwadau gan bobl am fwg yn yr awyr 12 milltir i ffwrdd yn Wrecsam.

Mae'r tân bellach wedi bod yn llosgi ers sawl diwrnod, a dywedodd Heddlu'r Gogledd fod ffordd A542 Bwlch yr Oernant bellach ar gau.

Maen nhw wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal, gan ddweud bod pobl sydd yno yn tynnu lluniau wedi bod yn achosi problemau i'r criwiau tân.

Ffynhonnell y llun, Rhys Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân ar fynydd Twmbarlwm wedi bod yn llosgi rhywfaint ers tua pythefnos

Yn y cyfamser roedd criwiau hefyd yn taclo nifer o danau gwair ger Abercynon, Rhondda Cynon Taf a Hwlffordd yn Sir Benfro nos Iau.

Bydd nifer o danau mynydd sy'n parhau i losgi hefyd yn cael eu harchwilio yn y bore.

Maen nhw'n cynnwys tân ar Fynydd Twmbarlwm yng Nghaerffili, Comin Garnoch yn Abertawe, Hilltop yng Nglyn Ebwy, Mynydd Maerdy yn Rhondda, a Mynydd Troed ger Talgarth ym Mhowys.

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi rhybudd gwasgaru ger mynydd Twmbarlwm er mwyn atal ymddygiad anghymdeithasol a sarhau geiriol tuag at swyddogion tân yno.

Gallai unigolion gael eu harestio os ydyn nhw wedyn yn dychwelyd i'r ardal.

Mae Dŵr Cymru a Heddlu'r De hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn dweud fod yr ymdrechion i ddiffodd y tanau yn rhoi straen ar gyflenwadau dŵr.