Môr-wenoliaid prin yn magu oddi ar arfordir Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
![Môr-Wenoliaid Gwridog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/CF1E/production/_102722035_1017641-chrisgomersallrspbimages.jpg)
Mae'r dirywiad yn niferoedd y môr-wenoliaid gwridog wedi ysgogi nifer o ymgyrchoedd i'w diogelu
Gallai pâr o fôr-wenoliaid gwridog gafodd eu geni ar ynys greigiog oddi ar arfordir Ynys Môn fod y cyntaf i fagu'n llwyddiannus yno ers 2006.
Roedd yr adar yn arfer cael eu gweld ar hyd a lled Cymru, ond bellach mae'r niferoedd wedi gostwng o ganlyniad i'w hela ar gyfer deunydd hetiau ffasiynol.
Mae'r dirywiad wedi ysgogi nifer o ymgyrchoedd i'w diogelu.
Dywedodd Ian Simms, sy'n warden i RSPB Cymru, nad oes modd "gorbwysleisio'r newyddion yma".
Mae Mr Simms yn un o'r wardeiniaid sy'n byw ar Ynys y Moelrhoniaid er mwyn cefnogi'r ymdrechion cadwraethol sy'n derbyn nawdd ariannol gan yr UE.
![Ynysoedd y Moelrhoniaid](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/15BEB/production/_102776098_skerries.jpg)
Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn hanfodol o ran lle i adar sy'n mudo o orllewin Affrica i nythu yn y DU ac Iwerddon
Mae'r wardeiniaid yn cynllunio blychau nythu a nifer o brosiectau eraill er mwyn ceisio denu mwy o fôr-wenoliaid gwridog i'r nythfa.
"Rydym wedi bod yn gweithio i geisio gwarchod y môr-wenoliaid ar Ynysoedd y Moelrhoniaid ers sawl blwyddyn bellach," meddai Mr Simms.
"Mae bridio rhwng y môr-wenoliaid gwridog wedi bod yn amrywiol dros y blynyddoedd."
Eleni fe wnaeth y cywion ddeor ar 10 Gorffennaf. Mae disgwyl iddyn nhw adael y nythfa rhwng 1-9 Awst.
Llygod mawr
Mae'r wardeiniaid hefyd yn defnyddio sawl dull i gadw ysglyfaethwyr i ffwrdd, gan gynnwys dychrynyddion adar môr ac uchelseinydd sy'n canu cân y wylan gefnddu leiaf.
Mae'r ynys hefyd yn cael ei monitro o ran llygod mawr gan fod nifer fechan o lygod mawr yn gallu difetha nythfa mewn dim o amser.
Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn hanfodol o ran lle i adar sy'n mudo o orllewin Affrica i nythu yn y DU ac Iwerddon.
Mae'r adar yn cyrraedd o ganol mis Mai ar gyfer nythu.
Ymysg y llefydd eraill ble mae modd gweld y môr-wenoliaid gwridog yn y DU, mae arfordir Northumberland a'r Firth of Forth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018