Chwaraewr rygbi o Samoa'n gwadu ymosod ar dri Chymro

  • Cyhoeddwyd
San FranciscoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Gordon Langkilde yn Neuadd Cyfiawnder, San Francisco, ddydd Llun

Mae chwaraewr rygbi o Samoa wedi gwadu ymosod ar dri aelod o dîm rygbi Cymru yn dilyn gêm yng Nghwpan Rygbi Saith Bob Ochr y Byd yn yr UDA.

Yn ystod gwrandawiad yn San Francisco, fe blediodd Gordon Langkilde yn ddieuog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â ffrwgwd honedig ar ddiwedd y gêm.

Cafodd asgwrn gên un o chwaraewr Cymru, Thomas Williams, ei dorri yn ystod y digwyddiad, yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Samoa yn San Francisco ar 22 Gorffennaf.

Penderfynodd yr awdurdodau y bydd yn rhaid i Mr Langkilde aros yn y UDA tan yr achos cyfreithiol ar 15 Awst.

Y gred yw fod Williams wedi torri ei drwyn ac asgwrn yn ei ên.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod dau chwaraewr arall wedi dioddef anafiadau.

Dywedodd URC nad oedd unrhyw chwaraewyr o Gymru yn wynebu cosbau.

Gorffennodd Cymru yn 11eg yn y gystadleuaeth yn y diwedd, gan drechu Canada 35-12 yn eu gêm olaf..