Gofal i efeilliaid: 'Mae'n drist bod y cyfleusterau ddim yma'
- Cyhoeddwyd
Dydd Gwener, 3 Awst ydy Diwrnod Efeilliaid Cenedlaethol - diwrnod sy'n rhoi cyfle i gydnabod y berthynas arbennig rhwng efeilliaid.
Ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddydd Gwener, bu Elin Owen o Lanbedrgoch, Ynys Môn yn trafod ei phrofiadau hi fel mam i efeilliaid unfath:
Dwi'n fam i efeilliaid bach sydd bron yn ddyflwydd, Twm a Gwil. Maen nhw'n efeilliaid bach eithaf anghyffredin achos maen nhw'n rhai unfath (identical).
Mae'r ffaith bod nhw'n rhai unfath wedi dod â phroblemau, yn enwedig pan mae rhywun yn feichiog.
Pan ges i'r sgan y geiriau ddywedodd y sonographer wrtha i oedd: "It's a very high risk pregnancy" - oherwydd bod nhw'n efeilliaid unfath.
Ges i fy ngyrru adra yn crïo achos doedd gennai ddim mwy o wybodaeth na hynny mewn ffordd, a doedd 'na ddim mwy o wybodaeth oedden nhw'n gallu ei roi i fi.
O'n i'n ypset ofnadwy am y peth, a jyst meddwl: "Mam bach! Be' sy'n mynd i ddigwydd i fi? A be' sy' am ddigwydd i'r babis?"
O'n i'n gwybod bysa (Ysbyty) Bangor methu fy nhrin i, a'i fod o'n fwy arbenigol na hynny a byddai'n rhaid i fi fynd ymhellach i gael y driniaeth briodol.
Gafon ni'r cynnig i fynd i Ysbyty yn Lerpwl (Liverpool Women's Hospital), ac o'n i'n gorfod mynd bob bythefnos i gael sgans arbenigol.
Mae'n rhaid i fi ddweud buodd fy ngwaith i yn anhygoel o wych efo fi, ond yn sicr doedd mynd i Lerpwl bob bythefnos ddim yn hawdd.
Nes i ddim mwynhau'r beichiogrwydd o gwbl achos o'n i'n meddwl cyn bob sgan mod i am golli nhw - a gallai ddweud efo llaw ar fy nghalon na nes i fwynhau eiliad o fod yn disgwyl, achos o'n i jyst 'di poeni drwyddo fo i gyd, achos dydi rhywun ddim yn gwybod be' sy'n wynebu nhw.
A fyddai pethau wedi bod yn haws petai'r gofal yn nes i adref?
Yn sicr fysa fo 'di bod yn haws - o ran mileage y car a bob dim! Ond mae'n rhaid imi frolio'r gofal ges i yn Lerpwl, ac mi roedd y dechnoleg oedd yna'n anhygoel.
Oedd o'n newid byd mewn ffordd, achos doedden nhw jyst ddim yn gallu fy nhrin i ym Mangor - doedd ganddyn nhw ddim y dechnoleg, felly oedd rhaid fi jyst mynd doedd.
Mae'n drist bod y cyfleusterau ddim yma, a dwi'n meddwl bod angen gwneud rhywbeth am y peth oherwydd dwi'n 'nabod, erbyn hyn, mamau eraill i efeilliaid yn yr ardal.
Mae'r efeilliaid sydd gen i yn gymharol brin, ond dwi'n meddwl bod gan bawb yr hawl i gael y gofal ar eu stepen drws.
Mae 'na rai pobl sydd ddim mor ffodus â fi ac mi fysa cyrraedd yna wedi bod yn broblemus, lle i fi neidio i'r car ac i lawr yr A55 am awr a hanner ydi hi.
Ynghanol hyn i gyd fe 'nath Rhodri'r gŵr ddod ar draws elusen o'r enw TAMBA (Twins and Multiple Births Association) a ffonio nhw - roeddan nhw'n wych.
Fe wnaethon nhw roi cyngor i mi ar y ffaith mod i'n disgwyl gefeilliaid oedd yn rhannu placenta.
Roedd 'na ddynes o'r elusen yn fy ffonio i amser cinio bob dydd am wythnos jest i checkio bo' fi'n iawn a gweld sut o'n i'n teimlo'r diwrnod hwnnw. Ac i fi, roedd y gynhaliaeth yna yn amhrisiadwy.
Er bod plentyn yn dod â'i sialens ei hun, ambell un efo colic, ambell un ddim yn cysgu, mae bod yn fam neu riant i efeilliaid yn dod â heriau yn sicr - a heriau gwahanol hefyd, ac mae cael y gefnogaeth benodol ar gyfer hynny yn help mawr.
Sut mae'r efeilliaid heddiw?
Maen nhw'n ddoniol! Mae ganddyn nhw'r iaith 'ma, ac maen nhw'n siarad efo'i gilydd ac yn chwerthin - maen nhw'n dallt ei gilydd i'r dim.
Dydi o ddim yn hawdd, ond dydi bod yn rhiant ddim yn hawdd.
Fyswn i ddim yn newid Twm a Gwil am y byd - maen nhw'n werth y byd i gyd yn grwn!