Cadarnhau dathliad Geraint Thomas yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd Geraint Thomas yn cael ei groesawu yn ôl i Gaerdydd mewn digwyddiad arbennig yn y brifddinas ddydd Iau.
Yn y Senedd mae'r dathliadau yn dechrau am 16:15, cyn gorffen tu allan i Gastell Caerdydd rhwng 17:00 a 17:30 ar 9 Awst.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y Tour de France, bydd y ddinas yn croesawu Thomas gartref fel y Cymro cyntaf i ennill ras feicio fwya'r byd.
Wrth gadarnhau'r dathliadau ar Twitter, dywedodd Thomas y byddai'n "fraint anhygoel" iddo gael bod yn rhan o'r dathliadau, a'i fod yn edrych ymlaen yn aruthrol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Diolch yn fawr i Gyngor Caerdydd, Seiclo Cymru, Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am drefnu hyn!
"Dwi'n gobeithio gweld cyn gymaint â phosib ohonoch chi ddydd Iau nesaf!"
Cyn y prif ddigwyddiad cyhoeddus yng nghanol Caerdydd, bydd Thomas yn cael ei longyfarch yn ffurfiol ar ran y genedl gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad Elin Jones.
Yna, bydd peloton o feicwyr ifanc o glybiau beicio amrywiol, yn seiclo i fyny Heol Eglwys Fair gyda Thomas cyn iddo gamu ar lwyfan i siarad â'r dorf tu fas i furiau'r castell.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018