Jeremy Miles yn cefnogi Mark Drakeford i arwain Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi ennill cefnogaeth gwrthwynebwr posib arall yn y gystadleuaeth i arwain Llafur Cymru.
Mewn araith ar faes yr Eisteddfod, bydd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, yn cadarnhau nad yw'n bwriadu chwilio am fwy o gefnogaeth i ymuno yn y ras, ac y bydd yn cefnogi'r Ysgrifennydd Cyllid, Mr Drakeford.
Roedd gan Mr Drakeford lawer mwy o gefnogaeth ymhlith ACau Llafur na'i wrthwynebwyr yn barod.
Mae disgwyl i Mr Miles ddweud bod angen cyfuno "radicaliaeth, idealaeth a phragmatiaeth - a chredaf y gall Mark, gan ei fod yn agored i syniadau newydd a chyda'i brofiad, gyfuno'r rhinweddau yma".
Ers iddo gael ei ethol yn aelod dros Gastell-nedd yn 2016, mae nifer wedi ystyried Mr Miles fel arweinydd posib.
Mae cefnogaeth Mr Miles yn golygu bod 13 o ACau wedi enwebu Mr Drakeford - mwy na'r pum enwebiad sydd angen ar ymgeiswyr er mwyn cyrraedd y papur pleidleisio.
Dim ond pedwar enwebiad sydd gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a does gan y ddau ymgeisydd arall - Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies - gefnogaeth yr un aelod arall eto, serch datgan eu bod yn awyddus i ymuno yn y ras.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2018