Dover 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Golwr Wrecsam, Rob Lainton yn gwneud arbediad pwysig

Llwyddodd Sam Ricketts i sicrhau ei fuddugoliaeth gystadleuol gyntaf fel rheolwr Wrecsam, gyda buddugoliaeth yn erbyn Dover.

Fe aeth Mike Fondop-Talom â'r ymwelwyr ar y blaen wedi hanner awr gyda chic dros ei ben.

Yna llwyddodd y golwr, Rob Lainton i arbed cic cosb.

Roedd Dover yn meddwl eu bod wedi taro'n ol yn hwyr yn gêm, ond dyfarnwyd bod trosedd yn erbyn Lainton.

"Dwi wrth fy modd a'r fuddugoliaeth," meddai Sam Ricketts.

Wrth gyfeirio at gôl Fondop-Talom, dywedodd Ricketts: "Ei waith e yw sgorio, ond mae e mwy na thebyg wedi gwella'n sylweddol o fewn y chwech wythnos diwethaf ers iddo ddod aton ni.

"Fel gweddill y tim, mae ganddo botensial mawr."