Marwolaeth Tredegar Newydd: Cyhoeddi enw dyn fu farw
- Cyhoeddwyd
![Tref Elliot](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E711/production/_102835195_elliot.jpg)
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 54 oed gafodd ei ganfod yn farw yn Nhredegar Newydd dros y penwythnos.
Cafodd corff David Gaut ei ddarganfod yn Long Row yn ardal Tref Elliot.
Mae tri dyn, 23, 47 a 51 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101, neu'n ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2018