Symud hen gwch o Lanberis yn 'siom' i grŵp twristiaeth

  • Cyhoeddwyd
Dinorwig Power Station with an inset of the Llyn Peris boatFfynhonnell y llun, Jonathan Billinger/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cwch i'r fei yn 1979 wrth greu canolfan trydan dŵr Dinorwig ar lan llyn Peris

Mae gwirfoddolwyr sy'n gweithio i ddenu twristiaid i ardal Llanberis yn siomedig fod hen gwch o'r ardal wedi cael ei symud o'r ganolfan ymwelwyr.

Daeth y cwch, sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif i'r fei yn 1979 wrth wagio Llyn Peris tra roedd cynllun trydan dŵr Dinorwig yn cael ei greu.

Ers hynny bu'n cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru.

Dros y misoedd nesaf bydd y ganolfan ymwelwyr yn cael ei ailwampio'n llwyr a bu'n rhaid gwagio'r adeilad.

Cafodd hen gwch Llyn Peris ei symud i'r Amgueddfa Genedlaethol, ond mae rhai sy'n ymwneud â grwpiau gwirfoddol i ddenu ymwelwyr yn teimlo fod y cwch yn rhan o hanes Llanberis ac y dylai aros yno.

Mae haneswyr yn credu bod y cwch wedi cael ei ddefnyddio rhwng 1547-1549 i gludo pobl, nwyddau bwyd ac anifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Edwards (chwith) ac Emlyn Baylis yn siomedig fod y cwch wedi cael ei symud

Dywedodd Emlyn Baylis cadeirydd Grŵp Datblygu Llanberis "Roedd o'n syndod mawr i mi fod y cwch wedi mynd.

"Mae'n ddarn o hanes y pentre ac mae'n iawn i'r plant sy'n dod ar ein holau ni weld y cwch yma, yn hytrach na bod hi wedi ei chuddio yn rhywle.

"Dwi wedi siarad hefo'r gŵr o'r Amgueddfa Genedlaethol sy'n gyfrifol am y cwch ac mae o wedi dweud yr hoffai o weld y cwch yn ôl yn Llanberis."

Dywedodd Stephen Edwards o'r grŵp gwirfoddol Hwb Eryri: "Sa'n neis os basa hi'n dod yn ôl i Lanber er mwyn rhoi'r hanes i blant.

"Mae hen gymeriadau'r cymunedau yma yn mynd ac mae eu stori hefyd yn mynd, ond os daw'r cwch yn ôl mi fydd yn gyfle i ni roi'r hanes i blant ac i ymwelwyr bod y cwch yma wedi bod ar Lyn Peris."

Mewn datganiad dywed rheolwyr Mynydd Gwefru fod y cwch wedi ei drosglwyddo i'r Amgueddfa Genedlaethol ac y bydd hynny yn sicrhau y bydd yn cael ei leoli mewn amgylchedd a chyd-destun addas ac yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.