Carcharu pump am ymosod ar Ifan Owens yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Billy Michael Valentine a David Robert LloydFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Billy Michael Valentine (7½ mlynedd) a David Robert Lloyd (3²/₃ mlynedd) yn ddau o'r pump sydd wedi cael eu carcharu am eu rhan yn yr ymosodiad ar Ifan Owens

Mae pum dyn wedi cael eu carcharu am eu rhan yn yr ymosodiad ar Ifan Owens yn Aberystwyth ym mis Ionawr 2018.

Yn Llys y Goron Abertawe, derbyniodd Billy Michael Valentine, 19 oed, a oedd wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ddedfryd o saith mlynedd a hanner mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Cafodd y pedwar arall - a blediodd yn euog i anhrefn treisgar - ddedfrydau o rwng dwy a phedair blynedd yr un dan glo.

Dywedodd y barnwr, Keith Thomas fod angen i'r pump rannu'r cyfrifoldeb am "ganlyniadau trychinebus" eu gweithredoedd.

Cafodd David Robert Lloyd, 25 oed, ddedfryd o dair blynedd ac wyth mis mewn carchar, a chafodd Lee Anderson-Warnes, 20 oed, ddedfryd o 25 mis.

Yn ogystal, cafodd Andrew Raymond John Scott, 23 oed a Michael Jones, 24 oed, ddedfrydau o 30 mis yr un.

Wrth iddyn nhw gael eu dedfryfu, fe wnaeth y diffynyddion chwerthin, cellwair a chodi llaw o'r doc at berthasau yn y llys.

Plediodd y pump yn ddieuog i'r cyhuddiadau'n wreiddiol, cyn newid eu ple yn gynharach ym mis Awst.

Wedi 'ofni'r gwaethaf'

Cafodd Mr Owens, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei ddarganfod yn anymwybodol gydag anafiadau difrifol i'w ben ar y Stryd Uchel yn Aberystwyth ar 14 Ionawr.

Bu mewn coma am fis y dilyn yr ymosodiad ac o ganlyniad i'w anafiadau, mae'n dioddef o flinder llethol, problemau clyw, trafferthion wrth siarad ac mae'n dueddol o anghofio pethau.

Nid yw'n cofio dim am noson yr ymosodiad.

Ffynhonnell y llun, Gareth Owens
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ifan Owens ddeffro o goma ar 11 Chwefror

Cafodd ddatganiad ei ddarllen yn y llys ar ran Gareth Owens, tad Mr Owens, a rannodd ei fod wedi "ofni'r gwaethaf" o glywed am yr hyn ddigwyddodd i'w fab y noson honno.

Ychwanegodd bod Mr Owens yn derbyn nad yw'n debygol o ddychwelyd i'r brifysgol eleni a'i fod yn "ansicr os yw am ddychwelyd i Brifysgol Aberystwyth" yn dilyn yr ymosodiad.

Dywedodd y ditectif arolygydd Anthony Evans ei fod yn falch o weld yr ymchwiliad yn arwain at garcharu'r pum troseddwr, a diolchodd i drigolion Aberystwyth am eu hamynedd a'u cefnogaeth yn ystod ymchwiliad heriol i "ddigwyddiad wnaeth ysgwyd y gymuned".

Dywedodd Mr Evans: "Rwy'n gobeithio bydd y dyfarniadau heddiw yn gysur i'r dioddefwyr a'r gymuned ehangach bod ymddygiad treisgar o'r fath yn anarferol yn ein hardal, ond pan fydd yn digwydd, mi fyddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddal ac i ganfod y troseddwyr yn euog."

Roedd Mr Evans hefyd wedi diolch ar ran teulu Mr Owens i staff Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, i'r heddlu a'r CPS ac i Brifysgol Aberystwyth am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.