Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-0 Boreham Wood

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Y tîm cartref oedd yn fuddugol ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wedi iddynt drechu Boreham Wood o dair gôl i ddim.

Wedi 25 munud fe roddodd Jordan Maguire-Drew y Dreigiau ar y blaen - peniad oedd hi ar ôl i Jennings groesi'n gelfydd.

Roedd y sgôr ar hanner amser yn 1-0.

Roedd rhaid aros tan ugain munud i mewn i'r ail hanner i gael ail gôl y Dreigiau - gôl flêr oedd hi ond nid oedd cefnogwyr Wrecsam yn malio tra bod Rekeil Pike yn cael y bêl dros y llinell.

Wrecsam oedd yn rheoli'r gêm er fod Boreham yn beryglus gydag ambell gornel.

Gyda chwe munud i fynd trydedd gôl a gyda pheniad grymus chwalodd Mike Fondop-Talom obeithion yr ymwelwyr.

Y sgôr terfynol felly oedd 3-0 i'r Dreigiau.

Dyma berfformiad cadarn gan Wrecsam - yn enwedig yn yr ail hanner ac y mae Sam Ricketts y rheolwr newydd yn amlwg wedi rhoi hyder mawr yn y tîm a'u cefnogwyr wrth iddynt barhau yn ddi-guro y tymor hwn.

Cyn y gêm ddydd Sadwrn roedd Wrecsam wedi wynebu Boreham Wood chwech gwaith ac wedi ennill pum o'r gemau hynny.

Daeth 4356 o bobl i weld y gêm ar y Cae Ras.