Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Trawsfynydd

  • Cyhoeddwyd
A4212 / A470Ffynhonnell y llun, Google

Mae dyn 70 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Trawsfynydd yr wythnos diwethaf.

Bu farw'r dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar y gyffordd rhwng yr A4212 a'r A470 ger Trawsfynydd ar 5 Awst.

Cafodd teithiwr un o'r cerbydau hefyd eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol, ond mae bellach wedi ei ryddhau.

Dywedodd y Sarsiant Raymond Williams: "Yn anffodus mae'r gwrthdrawiad nawr yn cael ei ymchwilio fel un angheuol, ac rydym ni'n adfywio ein hapêl am dystion."

Mae teulu'r dyn bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.