Bryn Terfel a'r profiad o berfformio yn y Steddfod

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos ddiwethaf roedd Syr Bryn Terfel yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Hwn yw Fy Mrawd.

Bu'n siarad â Shan Cothi ar BBC Radio Cymru am y cyngerdd, a'r hyn sydd ar y gweill, ar ei rhaglen Bore Cothi, ddydd Llun 13 Awst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rhan amla' fydda i'n cael gwylie ym mis Awst felly mae'r cyfleoedd i berfformio yn yr Eisteddfod wedi bod yn rhai prin yn y pum mlynedd ddiwetha'," meddai.

"Ond cafwyd cyfarfod blwyddyn yn ôl i drin a thrafod y syniad i wneud cyngerdd, ac mi oedd gen i yr awydd, oherwydd y cysylltiadau â Paul Robeson a Chymru a'r ffaith ei fod wedi ymweld ag Eisteddfod drigain mlynedd yn ôl.

"Fe ddechreuwyd ar y syniad pan o'n i newydd wneud gwaith campus Karl Jenkins ar ddigwyddiadau trist iawn Aberfan a berfformiwyd flwyddyn a hanner yn ôl, a Mererid Hopwood wedi sgrifennu'r libretto ar gyfer hwnnw.

"Felly roedd hi'n bwysig bod Mererid Hopwood yn rhan o hwn, ac ar ôl neud Atgof o'r Sêr gyda Robat Arwyn o'n i'n gobeithio y bysa fo yn rhan o hwn hefyd.

Disgrifiad,

Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

"O fewn blwyddyn, roedd y caneuon a'r deialog yn dod yn fisol a daeth y diwrnod pan ddaeth yr ymarfer cyntaf yn Neuadd yr Urdd. Mae'n bwysig i mi mod i yna yn gwybod fy ngwaith yn berffaith o flaen y cantorion a'r corau.

"Ro'n i eisiau gwybod y gwaith i gyd o flaen llaw - y caneuon a'r geiriau. A Betsan Llwyd yn cydlynu popeth. Mewn pedwar diwrnod gwnaethpwyd sioe caboledig iawn."

'Gwneud fy noson'

"Mi oedd 'na un côr ifanc o ysgol gynradd Ninian Park o gefndiroedd tra gwahanol, erioed 'di canu'n Gymraeg a nhw'n canu Ar Hyd y Nos [yn y cyngerdd].

"Roedd y llen yn dod i fyny a mi welais i wên ar wynebau'r plantos bach, eu llygaid nhw yn perlïo, fe wnaeth hwnna fy noson i. Fyswn i ddim 'di medru ei chanu hi, achos dydy crïo ddim yn mynd law yn llaw gyda pherfformio, ond o'n i'n falch i weld eu hymateb nhw."

Albwm o'i ffefrynnau

Mae Bryn Terfel wedi bod yn gweithio ar grynoddisg newydd o'i hoff ganeuon, Dreams and Songs. Mae'n dangos ei fod yn canu caneuon ysgafnach yn ogystal, meddai.

"Recordiwyd y gerddorfa yn Prague ymlaen llaw, ar gyfer yr albwm yma, a ro'n i'n recordio'r llais yn Abbey Road, yn y stiwdio 3 eiconig, y stiwdio lle oedd Pink Floyd wedi recordio The Dark Side of the Moon. Hwn oedd y tro cynta' i mi wneud rhywbeth yn unigol yno."

Ymhlith y deuawdwyr ar yr albwm, mae Emma Thompson, Rob Brydon ac Alfie Boe.

"Ro'n i'n ffodus iawn i ganu gyda Katherine Jenkins hefyd, achos oedd hi newydd gael Xander, ei hail blentyn. Mae hi'n canu Tell my Father, darn pwerus iawn."

Un dyn a ddylanwadodd ar yrfa Syr Bryn Terfel, meddai, oedd y cyfeilydd adnabyddus o Gwm Rhondda, Bryan Davies.

"Roedd Bryan Davies wedi sgrifennu cadwyn o ganeuon gwerin i mi, a wnes i dynnu Ar Lan y Môr allan o'r casgliad yma ar gyfer y crynoddisg.

"Dwi bob tro yn dweud o'n i'n pitïo na faswn i'n smocio, er mwyn cael mwy o amser yng nghwmni Bryan ar ddiwedd cyngherddau.

"Mae pobl yn ei gofio yn ei gap wlanog a'i fag plastig yn dal bws o Ferndale i Gaerdydd a fish and chips ar ddiwedd yr ymarfer bob tro!"