Galw am ystyried Tafwyl yn y Bae yn sgil yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Awel fwyn ar faes y brifwyl
Byddai cynnal gŵyl Tafwyl ym Mae Caerdydd yn y dyfodol yn un ffordd o ateb y galw am weld digwyddiad o'r fath yn dychwelyd i'r ardal.
Dyna farn y Prifardd Aneirin Karadog, sy'n dweud bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bae wedi dangos bod dyfodol i ŵyl heb ffiniau o'r fath.
Ond rhybuddiodd y byddai pobl yn "diflasu" os yw'r Brifwyl yn dychwelyd i Gaerdydd yn rhy aml, ac y dylai llefydd eraill yng Nghymru gael cyfle i gynnal Eisteddfod drefol.
Daw hynny wedi i arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas alw am gynnal yr ŵyl yn y brifddinas "bob pum mlynedd" yn dilyn llwyddiant eleni.
Dywedodd trefnwyr Tafwyl eu bod wrthi'n gwerthuso gŵyl eleni a bod rhan o hynny'n cynnwys ystyried ble y gallai gael ei chynnal yn y dyfodol.
'Cynnal y diddordeb'
Dywedodd Aneirin Karadog fod ganddo "barch mawr" at Huw Thomas, ond mai "nid yr arbrawf oedd cynnal [yr Eisteddfod] yn y Bae - yr arbrawf oedd cael un heb ffiniau".
"Mae'n teimlo fel bod 'na garfan o Gymry Caerdydd yn trio troi'r [dŵr i'w] melin, a dod â'r Eisteddfod yn amlach i Gaerdydd," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Bydde pobl yn diflasu ar ei gael e yn y Bae bob pum mlynedd. Roedd 'na rywfaint o novelty yn perthyn i'r peth eleni."

Fe enillodd Aneirin Karadog y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016
Un ateb posib, meddai, fyddai cynnal Tafwyl - sydd ar hyn o bryd yn digwydd yng Nghastell Caerdydd - yn y Bae yn y dyfodol.
"Mae'n ddigwyddiad tebyg, [a] byddai hynny'n gallu diwallu'r angen am ŵyl Gymraeg yn y ddinas," meddai.
"Ond mae'r castell yn lleoliad da hefyd, ac mae rhywbeth i'w ddweud am ei gael e yng nghanol y ddinas."
Tyfu'r ŵyl
Ar un adeg yn ystod Tafwyl eleni bu'n rhaid i'r trefnwyr weithredu system "un mewn, un allan" i ymwelwyr, cymaint oedd y prysurdeb o fewn muriau'r castell.
Yn ôl Dr Huw Williams, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn y ddinas, byddai symud Tafwyl o'r castell i'r bae hefyd yn gyfle i "ehangu" yr ŵyl.
Ychwanegodd y byddai'n "ffordd o gynnal diddordeb yn y Gymraeg yn y brifddinas" yn dilyn Eisteddfod heb ffiniau eleni oedd yn nodweddiadol am y croeso gafodd ei estyn i'r di-Gymraeg a'r rheiny o leiafrifoedd ethnig.

Y dorf yn cael eu diddanu yn Nhafwyl eleni
"Mae'n rhaid i ni feddwl am sut i wneud y mwyaf o ddiwylliant poblogaidd Cymreig," meddai.
"Byddai hefyd yn gyfle i edrych ar sut i ymgysylltu efo'r cymunedau lleiafrifol... [a] gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy croesawgar."
Dywedodd Menter Caerdydd, sy'n trefnu Tafwyl, wrth BBC Cymru Fyw eu bod nhw wrthi yn y broses o werthuso gŵyl eleni ar hyn o bryd.
"Rydyn ni'n trafod efo'r cyngor, y llywodraeth a phartneriaid eraill i weld beth sydd nesaf i Tafwyl," meddai'r llefarydd.
"Fel rhan o'r gwerthusiad rydyn ni wedi gofyn i bobl lle y buasen nhw'n hoffi ei weld, gan ein bod ni o bosib yn dechrau tyfu allan o Gastell Caerdydd.
"Rydyn ni'n agored i syniadau a dal yn agored i drafodaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2018
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018