Tafwyl 2018 'yn llawn dop' medd trefnwyr
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i drefnwyr Tafwyl weithredu trefn "un allan ac un i mewn" am gyfnod ddydd Sadwrn, oherwydd bod cymaint wedi dod i'r ŵyl yng Nghastell Caerdydd.
Roedden nhw'n disgwyl i dros 40,000 o bobl fynd i'r ŵyl dros y penwythnos, sydd wedi dychwelyd i'r castell eleni.
Cafodd y digwyddiad ei symud i Gaeau Llandaf y llynedd am nad oedd y castell ar gael yn sgil trefniadau rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Erbyn canol prynhawn dydd Sadwrn, cyhoeddodd trefnwyr Tafwyl ar wefannau cymdeithasol eu bod yn gweithredu trefn "un allan ac un i mewn".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd ciwiau y tu allan i'r castell ar un adeg, yn ogystal ag i rai o'r stondinau y tu fewn.
Diolchodd y trefnwyr i bobl am eu hamynedd gan eu hatgoffa i yfed digon o ddŵr a chofio'r eli haul.
Ymhlith y rhai sy'n perfformio dros y penwythnos mae Band Pres Llareggub, Alys Williams, Meic Stevens, Bryn Fôn, Candelas a Fleur de Lys.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Yurt T - llwyfan i berfformwyr ifanc - yn ei ôl eleni gyda Serol Serol, Wigwam, Los Blancos a Ffracas ymhlith y perfformwyr yno.
Mae cyfle i'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth werin i wneud hynny ddydd Sul yn Y Sgubor, ac mae rhai bandiau gwerin hefyd yn perfformio ar y prif lwyfan.

Mae'r ŵyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd eleni

Bu'n rhaid i'r ŵyl symud i Gaeau Llandaf y llynedd oherwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr
Dywedodd aelodau Band Pres Llareggub, fydd yn perfformio ar y prif lwyfan ddydd Sadwrn, ei bod yn "gymaint o bleser gallu dychwelyd i chwarae Tafwyl eto eleni!"
"Mae'r band i gyd bob tro wrth ei boddau yn chwarae'r brifddinas ac mae'r digwyddiad blynyddol yma bob tro yn arbennig!" meddai'r band.
"'Da ni efo atgofion melys o Tafwyl 2016, ac mae cael gymaint o fandiau mawr y sin Gymraeg i gyd yn chwarae mewn un lle yn barti a hanner."
Mae amserlen lawn Ffair Tafwyl i'w gweld yma, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017