Beth ddatgelwyd gan un o'r hafau poethaf ar gofnod?
- Cyhoeddwyd
Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd haf 2018 ymysg y poethaf sydd wedi ei gofnodi yn y DU ers dechrau cadw cofnodion yn 1910.
Fe gyrhaeddodd y tymheredd lefelau tebyg i 1976, 2003 a 2006, sef y poethaf ar gofnod yn ôl meterolegwyr.
Fe wnaeth y tir sych a'r gostyngiad mewn lefelau dŵr ddatgelu rhai arwyddion o'r gorffennol wrth i ddŵr cronfeydd fel Tryweryn a Brianne ostwng ac olion cnydau ymddangos yn y tirwedd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, dolen allanol wedi bod yn hedfan dros Gymru i gofnodi olion archaeolegol sydd wedi dod i'r golwg mewn marciau neu batrymau yn y cnydau.
Mae'r olion yn ymddangos am fod planhigion sy'n tyfu mewn hen ffosydd neu gafnau yn tyfu'n well a mwy trwchus nac ar dir â phridd mwy bas.
Er na ostyngodd y dŵr mewn cronfeydd i lefelau sydd wedi eu gweld mewn blynyddoedd blaenorol, roedd 'na olion o'r aelwydydd a'r cymunedau oedd wedi byw unwaith yn y cymoedd a foddwyd.
Hefyd o ddiddordeb:
Fe wnaeth y tywydd a'r tir sych hefyd arwain at danau mawr ar fynyddoedd y de a'r gogledd gan ddifetha'r tirwedd a'r pethau sy'n byw arno.
Felly, wrth inni ffarwelio â haf braf 2018, a gan gofio'r eira gafon ni ddechrau'r flwyddyn, edrychwn ymlaen i weld beth fydd gan y gaeaf i'w gynnig inni eleni!