Shaun Edwards i ymuno â'r Gweilch mewn rôl ymgynghorol

  • Cyhoeddwyd
Shaun EdwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Edwards yn gadael ei swydd fel hyfforddwr amddiffyn Cymru ar ol Cwpan y Byd

Bydd hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn gweithio gyda'r Gweilch y tymor hwn mewn rôl ymgynghorol.

Roedd disgwyl i Edwards gydweithio gyda'r Dreigiau hefyd, ar ôl i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ddatgan y byddai'n gweithio gyda'r ddau ranbarth yn ystod tymor 2018/19.

Mae'r Gweilch bellach wedi cyhoeddi y bydd Edwards yn gweithio gyda'u rhanbarth nhw yn unig.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Allen Clarke, fod Edwards yn hyfforddwr "o safon fyd-eang".

'Edrych 'mlaen'

Cyhoeddodd Edwards yn gynharach yn y mis y byddai'n gadael ei swydd fel hyfforddwr amddiffyn Cymru ar ôl Cwpan y Byd 2019 er mwyn hyfforddi Wigan Warriors.

Wrth sôn am ei rôl newydd gyda'r Gweilch, dywedodd Edwards: "Mae'n gyfle i weithio gyda chwaraewyr arbennig, nifer ohonynt yr wyf yn eu nabod o'u hamser gyda'r tîm rhyngwladol".

"Mae'r Gweilch yn rhanbarth gyda hanes disglair a balch, mae'r clwb yn uchelgeisiol iawn dan reolaeth Allen a dwi'n edrych 'mlaen at chwarae fy rhan."

Fe wnaeth Edwards gyflawni rôl debyg gyda'r Gleision y llynedd, tymor lle oedden nhw'n fuddugol yng Nghwpan Her Ewrop.