Miloedd yn heidio i ŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd
Dyn GwyrddFfynhonnell y llun, Jenna Foxton
Disgrifiad o’r llun,

Bydd The War on Drugs, Fleet Foxes a Public Service Broadcasting yn perfformio yn ystod yr ŵyl dros y penwythnos

Mae disgwyl i oddeutu 25,000 o bobl fynychu gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog sy'n dechrau ddydd Iau.

Mae'r ŵyl bedwar diwrnod o hyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 16 oed, ac ar y prif lwyfan eleni mae The War on Drugs, Fleet Foxes a Public Service Broadcasting.

Mae'r ŵyl annibynnol yn ddibynnol ar ei hincwm ei hun yn hytrach nag ar arian noddwyr, ac mae yna ddiddordeb wedi bod gan gwmnïau mawr i brynu gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Yn ôl prif gyfarwyddwr yr ŵyl, Fiona Stewart, mae'r ŵyl yn "ddeniadol iawn" i brynwyr o'r fath.

Dywedodd Ms Stewart wrth BBC Radio Wales: "Does yna erioed amser mor heriol wedi bod i'r diwydiant gwyliau."

Ffynhonnell y llun, Samantha Milligan
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob un tocyn wedi ei werthu, ac mae disgwyl i 25,000 o bobl i fynychu gŵyl y Dyn Gwyrdd

Esboniodd Ms Stewart: "Y Dyn Gwyrdd yw un o'r unig wyliau annibynnol sydd ar ôl, ac rydym yn gwerthu allan yn gyflym, felly mae'n opsiwn deniadol iawn i gwmnïau mawr, rhyngwladol o America."

Serch hynny, pwysleisiodd ymrwymiad y tîm i gadw'r ŵyl ger Crucywel ym Mhowys yn un annibynnol ac ychwanegodd eu bod yn awyddus i gynnig profiad o rywbeth heb "ei werthu" i'r cyhoedd.

'Profiad unigryw'

Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ar ystâd hanesyddol Glanwysg, yn cynnwys ardal sy'n gwerthu cwrw a seidr wedi ei fragu gan fusnesau annibynnol, ardal i blant a Gardd Einstein, sef dathliad o wyddoniaeth, celf a natur.

"Be dwi'n ei garu am y Dyn Gwyrdd yw bod modd i bobl ddewis eu profiad unigryw o'r ŵyl," meddai Ms Stewart.

"Maen nhw'n gallu dawnsio drwy'r nos, gwylio comedi neu ffilmiau'n hwyr, neu eistedd mewn twba twym yn yfed bubbly, yfed cwrw Cymreig neu ddarganfod band newydd cyn mynd i weld band rhyngwladol ar un o'r prif lwyfannau."

Ffynhonnell y llun, Max Miechowski
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl annibynnol yn 16 oed eleni

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl mwy o draffig na'r arfer ar yr A40 rhwng Y Fenni ac Aberhonddu ac ar yr A465, sef Ffordd Blaenau'r Cymoedd, gerllaw.

Bydd hefyd fysiau gwennol arbennig yn teithio o orsaf drenau Y Fenni.

Yn ogystal, mae bysiau arbennig o fynychwyr yn teithio yno o 30 o leoliadau ledled y DU.