Cymraes o Fachynlleth ar bwyllgor amaethyddol Ewropaidd
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr amaeth o Fachynlleth yn ymuno â melin drafod Ewropeaidd fydd yn gweithio i gefnogi newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant.
Bydd Einir Davies, 28 oed, yn cynrychioli'r DU fel rhan o rwydwaith rhyngwladol fydd yn gweithio i ddatblygu dulliau arloesol o gefnogi ffermwyr newydd.
Bwriad NEWBIE - New Entrant Network - yw trafod potensial prosiectau fel canolfannau arbennig i feithrin sgiliau a chynnig cymorth technolegol i'r sector amaethyddol.
Dywedodd Ms Davies ei bod yn "edrych ymlaen" at ymuno gyda'r grŵp i rannu prosiectau sydd ar waith yng Nghymru a "darganfod dulliau amgen sy'n cael eu defnyddio yn Ewrop".
Ar hyn o bryd mae Ms Davies yn gweithio fel rheolwr mentora a datblygiad Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae hi'n rheoli prosiectau fel yr Academi Amaeth, sy'n adnabod a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Nifer o rwystrau
Wrth edrych ymlaen at ei rôl ar bwyllgor NEWBIE, dywedodd: "Mae unrhyw un sy'n mynd ati i ddechrau neu adeiladu busnes yn y diwydiant ffermio yn wynebu nifer o rwystrau, gan gynnwys mynediad at dir, llafur, cyfalaf a gwybodaeth am y diwydiant."
Un o brif ddulliau Cyswllt Ffermio o gefnogi ffermwyr newydd yw darparu cynllun mentora pwrpasol, gyda ffermwyr profiadol yn mentora ffermwyr ifanc neu newydd.
Dywedodd Ms Davies ei bod eisoes wedi derbyn adborth "nad yw rhanbarthau eraill yn y DU yn cynnig gwasanaethau integredig tebyg".
Yn ogystal, ychwanegodd: "Bydd NEWBIE yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i newydd-ddyfodiaid ar draws Ewrop."
Mae'r grŵp llywio'n cynnwys cynrychiolaeth o'r Iseldiroedd, Gwlad Belg, Iwerddon, Ffrainc a'r Almaen yn ogystal â'r DU.
Cafodd NEWBIE ei sefydlu gan Sefydliad James Hutton yn Aberdeen gyda chefnogaeth rhaglen ymchwil ac arloesed Gorwelion 2020 yr Undeb Ewropeaidd, a bydd yn rhedeg o 2018 tan 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017