Cwpan Carabao: Tri thîm o Gymru gartref

  • Cyhoeddwyd
cwpan CarabaoFfynhonnell y llun, James Marsh/BPI/REX/Shutterstock

Fe fydd y tri thîm o Gymru sy'n ymddangos yn ail rownd Cwpan y Gynghrair yn chwarae ar dir cyfarwydd wedi i'r enwau ddod o'r het nos Iau.

Mae'r timau wedi eu rhannu'n ddaearyddol yn yr ail rownd, felly roedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd i gyd yn hanner deheuol y rownd.

Caerdydd fydd yr hapusaf o'r tri efallai. Bydd yr Adar Gleision yn croesawu Norwich City o'r Bencampwriaeth i'r brifddinas.

Mae gan yr Elyrch gêm anodd wrth i Crystal Palace deithio i Stadiwm Liberty. Er i Abertawe gael dechrau da i'r tymor yn y Bencampwriaeth, bydd yr ymwelwyr o'r Uwch Gynghrair yn hyderus.

Oxford United fydd yn ymweld â Chasnewydd. Unwaith eto mae'r ymwelwyr yn chwarae ar lefel uwch, gydag Oxford Utd yn Adran 1 a Chasnewydd yn Adran 2.

Bydd gemau'r ail rownd yn cael eu chwarae yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Awst.