Cau rhan o ffordd yr A55 ger Llanddulas am bum wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd rhan o'r A55 ar gau am bum wythnos ar gyfer gwaith uwchraddio'r ffordd.
Bydd y ffordd tua'r gorllewin ger cyffordd 23, Llanddulas ar gau o 17 Medi am bum wythnos.
Bydd system llif traffic yn weithredol wrth i weithwyr ailosod wyneb y ffordd a thrwsio pont.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Rydym yn gofyn i yrwyr fod yn amyneddgar tra bod y gwaith yma'n cael ei chwblhau am 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, wrth i ni geisio cwblhau'r gwaith cyn gynted â phosib."
Bydd gwaith tebyg yn cael ei wneud ar y ffordd tua'r dwyrain y flwyddyn nesaf.
Oherwydd natur y gwaith ac i sicrhau diogelwch, bydd byrddau 1.5m o uchder yn cael eu gosod ar ddwy ochr y ffordd yn ystod y gwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018