Treialu camerâu cyfartaledd cyflymder ar ran o'r A55
- Cyhoeddwyd
Bydd camerâu cyfartaledd cyflymder yn cael eu treialu ar ran o lôn orllewinol yr A55 er mwyn atal pobl rhag goryrru i lawr Allt Rhuallt.
Mae'r camerâu'n cael eu gosod ar ôl i system radar ddangos fod miloedd o bobl wedi torri'r cyfyngiad cyflymder cyfreithlon o 70mya ar y rhan yna o'r ffordd rhwng 8 Mawrth a 27 Mawrth.
Mae disgwyl i'r camerâu fod ar waith erbyn canol mis Mai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, fod nifer y bobl sy'n goryrru i lawr Allt Rhuallt yn "destun pryder mawr".
Cafodd y data ei gasglu o dri lleoliad er mwyn deall yn well faint o broblem yw goryrru yn yr ardal.
Fe gasglodd y system radar gyflymder 394,326 o gerbydau ac roedd 217,642 ohonyn nhw'n teithio'r gyflymach na 70mya tua'r gorllewin.
Roedd cyflwyno camerâu cyfartaledd cyflymder yn un o'r camau posib gafodd eu nodi mewn astudiaeth y llynedd ar wneud hi'n fwy braf i bobl yrru ar hyd yr A55.
Gan edrych ar atal damweiniau ffordd a lleihau'r effaith wedi damwain neu wedi i gerbyd torri lawr, roedd yr astudiaeth eisoes wedi tynnu sylw at oryrru ar Allt Rhuallt tua'r gorllewin cyn y data diweddaraf.
Bydd camerâu'n cael eu gosod wrth Gyffyrdd 28, 29 a 30 ac yn cael eu profi cyn i'r system ddod i rym ganol Mai.
Fe fydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos er mwyn osgoi gorfod cau un o lonydd yr A55 yn ystyd y dydd.
Dywedodd Mr Skates fod goryrru yn yr ardal dan sylw "yn destun pryder mawr a bydd y mesurau rydyn ni'n eu rhoi ar waith nawr yn sicrhau bod y cyhoedd yn fwy diogel ac yn helpu i leihau nifer y gwrthdrawiadau yn yr ardal.
"Byddant hefyd yn sicrhau bod yr A55 yn gallu ymdopi â thraffig yn well," meddai.
Ychwanegodd fod yr arbrawf yn un o nifer o gamau o ganlyniad i astudiaeth y llynedd a fydd "yn sicrhau bod traffig yn llifo mewn amgylchedd mwy diogel".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2015