Carcharu dyn am achosi anhrefn ar draeth yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Richard O'NeillFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard O'Neill wedi'i anfon i'r carchar am 22 mis

Mae dyn 39 oed o Goedpoeth wedi'i anfon i'r carchar am achosi anhrefn ar draeth yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Richard O'Neill bledio'n euog i achosi niwed corfforol, pum cyhuddiad o ymosod cyffredin, affrae, gyrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a dinoethi cyhoeddus.

Mae O'Neill wedi'i anfon i'r carchar am 22 mis, ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd ac 11 mis ac wedi'i osod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.

Roedd O'Neill yn gyrru hyd at 30m.y.a. ar draeth Morfa Bychan ger Porthmadog cyn troi'n fygythiol a dinoethi ei hun pan sylweddolodd ei fod yn cael ei ffilmio.

'Ymddygiad meddw'

Fe frathodd uwch-arolygydd y traeth, Alun Williams gan achosi iddo gael craith.

Roedd hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod ar chwe pherson arall, gan gynnwys dwy ddynes.

Mewn datganiad gan wraig un o ddioddefwyr yr ymosodiad, roedd ei dwy ferch yn nofio yn y môr pan ddigwyddodd yr ymosodiad, a'i bod yn pryderu os base nhw'n dod allan byddai O'Neill yn parhau i ymosod arnyn nhw.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon: "Roedd yn ymddygiad meddw a chwbl diangen ar draeth cyhoeddus ble 'roedd pobl yn mwynhau eu gwyliau haf."