Y Bencampwriaeth: Birmingham 0-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gôl na chafodd ei roi i BirminghamFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe wrthododd y dyfarnwr â rhoi gôl i Birmingham wedi trosedd yn erbyn y golwr

Mae Abertawe wedi sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Birmingham er i'r gwrthwynebwyr gael y gorau o'r chwarae.

Fe gafodd y tîm cartref chwe chyfle ardderchog yn yr hanner cyntaf, gan rwydo ar un achlysur cyn i'r dyfarnwr benderfynu bod Michael Morrison wedi troseddu yn erbyn golwr yr Elyrch, Erwin Mulder.

Fe gawson nhw ragor o gyfleoedd wedi'r egwyl, gan gynnwys croesiad yn hwyr yn y gêm gan Jacques Maghoma a gafodd ei amddiffyn yn gampus gan Martin Olsson.

Methodd Abertawe â chael ergyd o gwbwl yn ardal y gôl gydol y gêm.

Serch hynny, fe ddywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter: "Dwi'n credu mai fi fydd yr hapusaf o'r ddau reolwr.

"Roedd Birmingham yn haeddu ennill, ond fe wnaethon ni ddal ati, sefydlogi pethau yn yr ail hanner... mae'n brofiad gwych i ni, mae'r chwaraewyr yn dysgu'n gyflym."

Dywedodd rheolwr Birmingham, Garry Monk ei fod "yn falch o berfformiad" ac ymroddiad ei chwaraewyr.