Gwraig â dementia i gael llonydd i wylio Mamma Mia!
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig sydd â dementia a'i theulu yn cael gwylio'r ffilm Mamma Mia! mewn dangosiad arbennig ddydd Sul, ar ôl i aelodau'r gynulleidfa mewn sinema arall wneud iddi deimlo nad oedd dewis ond gadael cyn y diwedd.
Dywedodd Rhiannon Lewis bod nifer o bobl yn sinema Vue yng Nghwmbran wedi gwneud stumiau ac aflonyddu wrth glywed ei mam Shirley, 68 oed, yn cydganu caneuon y ffilm mewn dangosiad yn y sinema ym mis Gorffennaf.
Fe adawon nhw gan fod yr ymateb wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.
Ar ôl i Ms Lewis adrodd yr hanes ar Facebook, cafodd gefnogaeth nifer o bobl, ac fe ffoniodd rheolwr Cineworld yng Nghasnewydd a chynnig tocynnau am ddim ar gyfer sesiwn breifat o'r ffilm.
Dywed Ms Lewis bod caneuon Mamma Mia! yn llonyddu ei mam, a gafodd wybod yn gymharol ifanc bod y cyflwr arni, a'u bod wedi mynd i wylio'r ffilm i ddathlu ei phen-blwydd.
Lai na hanner ffordd drwy'r ffilm, fe gyffrôdd ei mam "ar ôl clywed un o'i ffefrynnau, gan ddechrau gweiddi ar y sgrin" ond fe wnaeth ymateb pobl oedd yn eistedd y tu ôl iddyn nhw wneud "e'n amlwg ein bod yn amharu ar eu mwynhad.
"Roedd fy mam yn ypset iawn ac yn gweiddi wrth adael, ac mae'n siŵr i rai ei bod yn edrych fel ei bod yn feddw."
Mae Ms Lewis wedi gwerthu 70 o docynnau a gafodd eu cynnig iddi am ddim gan reolwr Cineworld, Casnewydd ar gyfer y dangosiad preifat ddydd Sul.
Bydd yr elw yn mynd at elusen Alzheimer UK.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018